Os ydych yn cynllunio unrhyw waith adeiladu neu ddymchwel ym Mlaenau Gwent, mae'n rhaid i chi:
- Wirio os ydych angen caniatâd cynllunio
- Canfod pa fath o ffurflen gais mae angen i chi ei llenwi, yn ogystal â sut i wneud eich cais
Mae'r Porth Cynllunio  yn rhoi mwy o gyngor a gellir ei ddefnyddio. Mae canllawiau help hefyd ar gael ar y wefan.
Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflenni cynllunio a'u dychwelyd at:
Rheoli Datblygu,Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Mathau o Ffurflenni Cais
Gwaith adeiladu ar eich tÅ·
Ar gyfer gwaith o amgylch eich tÅ· yn cynnwys:
- Newidiadau i'r adeilad
- Adeiladu strwythur newydd
Byddwch angen y dilynol:
Mae gwaith adeiladu arall yn cynnwys newidiadau i adeiladau presennol a datblygu adeilad newydd.
- Estyniadau a newidiadau allanol
- Adeiladu strwythur newydd
- Newid defnydd o
Byddwch angen y dilynol:
Ffurflenni cynllunio eraill:
Caniatâd Cynllunio Amlinellol
Gall caniatâd cynllunio amlinellol weithiau fod yn briodol pan fyddwch angen cytundeb 'mewn egwyddor' am eich datblygiad arfaethedig, heb orfod ymrwymo i ddyluniad neu gynllun penodol.
Mae 2 math o gais cynllunio amlinellol:
Y materion a gadwyd yw: ymddangosiad, tirlunio, mynediad, cynllun a maint.
Materion a gadwyd yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol
Materion a gadwyd yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol. Os ydych wedi sicrhau caniatâd cynllunio amlinellol (gyda rhai neu'r holl faterion a godwyd) bydd angen i chi wneud cais o fewn amserlen benodol i gael caniatâd ar gyfer y materion a gadwyd, cyn i chi ddechrau gwaith. .
Cais i Ollwng Amod
Mae angen cais i ollwng amod pan fo amod yn y caniatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Mae'n rhaid cyflwyno'r manylion neu ddogfennau yr ydych wedi gofyn amdanynt ar gyfer cymeradwyaeth yn unol ag amserlenni a nodwyd. Mae'r yn cynnig mwy o wybodaeth am lenwi'r ffurflen gais.
Gwelliant ansylweddol
Mae gwelliant ansylweddol i ganiatâd cynllunio presennol ar gyfer pan fo angen i chi newid manylion a gymeradwywyd yn flaenorol megis newid bach mewn dyluniad neu ddefnyddiau a ddefnyddir ar brosiect. .
Dileu neu amrywio amod yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio
Mae dileu neu amrywio amod yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer pan roddwyd caniatâd cynllunio i chi eisoes ond yr hoffech ddileu neu newid amod yn y caniatâd, er enghraifft i wneud mân welliannau sylweddol i gynlluniau a gymeradwywyd. .
Dymchwel adeiladau
Os dymunwch ddymchwel eich tŷ, neu adeilad arall, bydd angen cytundeb ar fanylion sut y bwriadwch wneud y gwaith dymchwel a sut y cynigiwch adfer y safle wedyn. Mae rhai gweithdrefnau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw cyn dymchwel adeilad - Gweithdrefn Hysbysiad Ymlaen Llaw.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan .
Dangos hysbysebion
Os ydych eisiau dangos hysbyseb, megis:
- Arwydd siop neu fusnes (gyda neu heb oleuadau)
- Hysbysfyrddau
- Arwyddion sy'n hongian/estyn allan
- Baneri
Gall fod angen i chi wneud cais am Ganiatâd Hysbyseb. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y .
Os yw'ch adeilad mewn ardal gadwraeth
Os ydych yn bwriadu dymchwel adeilad neu strwythur mewn ardal gadwraeth, bydd angen i chi wneud cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel. Gallwch ddefnyddio'r wrth lenwi ffurflen.
Adeiladau rhestredig
Mae'n rhaid i chi wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig os ydych yn cynllunio unrhyw waith dymchwel, newid neu estyniad sy'n effeithio ar gymeriad a gosodiadau adeilad rhestredig statudol. Mae mwy o wybodaeth am lenwi'r ffurflen gais yn y .
Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon (LDC) sy'n bodoli eisoes
Os ydych yn berchen darn o dir neu adeilad ac y caiff ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer gweithgaredd - megis cynnal busnes - gallwch wneud cais am dystysgrif fydd yn cadarnhau fod y defnydd/datblygiad yn gyfreithlon. Gelwir hyn yn Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn ceisio gwerthu tir/eiddo ond yn canfod na chafodd caniatâd cynllunio ei roi erioed a'ch bod eisiau bodloni unrhyw ddarpar brynwyr fod estyniad neu weithredu neu fusnes sy'n digwydd yn gyfreithlon. I gael tystysgrif byddai angen i chi roi tystiolaeth i gefnogi cais o'r fath ac i ddangos un ai nad oedd angen caniatâd cynllunio neu y daeth y gweithiau'n gyfreithlon oherwydd eu bod wedi bodoli am gyfnod penodol.
Cynnig - Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon
Os ydych yn cynnig codi adeilad neu ar gyfer defnydd penodol, gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon neu ddefnydd. Defnyddiwch y  wrth lenwi'r ffurflen. Mae cymeradwyo cais o'r fath yn rhoi penderfyniad ffurfiol na fyddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad/defnydd.
Hysbysiad perchnogion - a beth i'w wneud os yw'r perchennog yn anhysbys
Os bwriedir gwneud gwaith adeiladu mae'n rhaid dweud wrth berchennog y tir, adeiladau neu safle, gelwir yn hyn rhoi hysbysiad. Perchennog y safle yw'r rhydd-ddeiliad neu'r lles-ddeiliaid (os oes o leiaf saith mlynedd o'r les ar ôl). Mae gweithdrefnau eraill ar gael ar gyfer sefyllfaoedd lle mae'r perchennog tir yn hysbys a pherchnogion rhan neu'r holl safle yn anhysbys.
Llenwi Ffurflen Hysbysiad Perchennog.
Gallwch gysylltu â ni i gael mwy o fanylion neu ymweld â'r wefan .
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 364847
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk