Rownd Derbyniadau Uwchradd 2024-25
Mae derbyniadau i ysgolion uwchradd ar gyfer y flwyddyn academaidd yn dechrau ar 23 Medi 2024 ac yn cau ar 15 Tachwedd 2024.
gwynewch gais am le mewn ysgol uwchradd 2025
Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig, gyda thystiolaeth ategol berthnasol bod ffurflenni cais wedi’u derbyn, a fydd yn cael eu hystyried yn y rownd gychwynnol o dyrannu lleoedd i ddisgyblion. Gall ffurflenni a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn, neu ffurflenni anghyflawn, arwain at wrthod lle i blentyn yn ei ddewis ysgol uwchradd.
Gellir gweld dyddiadau pwysig i chi fel rhiant eu nodi yma: Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2025
Mae plant yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar ddechrau’r flwyddyn ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed (h.y. os yw’ch plentyn yn 11 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025, byddai ganddo hawl i le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2025).
Tra gwneir pob ymdrech i dderbyn disgyblion, rhaid gwneud cais i fynychu ysgol uwchradd ar yr amser priodol.
Mae gennych gyfrifoldeb, yn ôl y gyfraith, i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg amser llawn priodol.
Os ydych yn dal yn ansicr ynghylch pa ysgol i’w dewis ar gyfer eich plentyn, gweler ein llyfryn cychwyn yn yr ysgol:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion, cyfeiriwch at Bolisi Derbyn i Ysgolion °¬²æAƬ ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2025/26.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses dderbyn neu i ofyn am gopi o’r llyfryn cychwyn yn yr ysgol, anfonwch neges e-bost at: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk
Deietau Arbennig
I wneud cais am ddeiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddeiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.
Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a deietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai’n derbyn bwydlen deiet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Caniatewch hyd at dair wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.
Er mwyn diogelu iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu pecyn cinio i’ch plentyn o’ch cartref hyd nes y byddwch wedi derbyn dyddiad cychwyn wedi’i gadarnhau.
Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yn yr Ysgol Gynradd
Mae gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i’r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a’n huchelgeisiau cyffredin o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl. Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys hybu bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gall dysgwyr ei bwyta, gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.
Nid oes angen cofrestru: wrth gofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol, bydd ond angen i’ch plentyn nodi a oes angen pryd ysgol arno. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefiad, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen gais am ddeiet arbennig.
Dogfennau Cysylltiedig
- Hysbysiad Preifatrwydd
- Polisi Derbyn i Ysgolion °¬²æAƬ ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2025/26
- Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg
Manylion Cyswllt
Derbyniadau i Ysgolion
Rhif ffôn: (01495) 369502 / (01495) 369524. Sylwch, bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk i ofyn am alwad yn ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, °¬²æAƬ, NP23 6DN