Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – rhaglen Ysgolion Bro
Cyflwyniad
Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod dyraniad cyllid ar gael i bob awdurdod lleol i gyflawni nod y rhaglen.
Mae’r ‘yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i:
- ‘Buddsoddi yn amgylchedd dysgu ysgolion cymunedol, cydleoli gwasanaethau allweddol, a sicrhau ymgysylltiad cryfach â rhieni a gofalwyr y tu allan i oriau traddodiadol.’Ìý Mae hyn yn rhan allweddol o’r polisi ehangach ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol i sicrhau safonau a nodau uchel Ìýi bawb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau am ddatblygu Ysgolion Bro yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau rhannu dealltwriaeth o’r weledigaeth a dealltwriaeth glir o’r canllawiau.
Felly mae’r diffiniadau hyn yn helpu i esbonio’r hyn a olygwn pan ddefnyddiwn y termau dilynol:
- Teuluoedd – system gymorth o rieni, brodyr a chwiorydd, perthnasau a phobl eraill sy’n gysylltedig â lles yr aelodau.
- Rhieni – pobl â chyfrifoldebau rhieni, er enghraifft mamau, tadau, gofalwyr maeth, rhieni sy’n mabwysiadu, llys-rieni, rhieni a thad-cuod a mam-guod ‘sy’n berthnasau’.
- Cymuned – y rhai hynny yn yr ardal leol, ond hefyd pawb sy’n ymddiddori yn ansawdd yr addysg, ac sy’n cael eu heffeithio ganddi. Mae llawer o’n cymunedau yn ddaearyddol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol amrywiol, ond maent yn dal i rannu cysylltiadau cymdeithasol ac ymdeimlad o gynefin (perthyn) drwy’r ysgol, eu plant a’u teuluoedd.
- Cyfranogiad rhieni – rhieni yn cymryd rhan ym mywyd a chymuned yr ysgol.
- Ymgysylltiad rhieni – rhieni yn mynd ati i gefnogi dysgu eu plentyn.
- Amgylchedd Dysgu yn y Cartref – gan gynnwys yr adnoddau ffisegol sydd ar gael yn y cartref, ond hefyd ansawdd y cymorth dysgu gan deuluoedd.
- Amrywiaeth – yr holl ffyrdd y mae pobl yn wahanol, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig.
- Tegwch – dyrannu adnoddau yn ôl yr angen, mewn ffordd bersonol, i sicrhau canlyniadau teg i bawb.
- Cynhwysiant – sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cefnogi, eu parchu a’u gwerthfawrogi.
- Arweinyddiaeth gydweithredol – arweinyddiaeth sy’n cynnwys rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau bod pawb yn lleisio’u barn a bod penderfyniadau a nodau yn cael eu gwneud ar y cyd.
Pam ein bod eisiau datblygu Ysgolion Bro.
- Rydym eisiau i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro
- Adeiladu partneriaeth gref gyda theuluoedd
- Ymateb i anghenion eu cymuned
- Cydweithio’n effeithlon gyda gwasanaethau eraill.
Dylai pob plentyn a pherson ifanc fod yn barod am eu bywyd yn y dyfodol. Dyma ddyhead y Cwricwlwm i Gymru; gan eu galluogi i fod yn uchelgeisiol, yn fentrus, yn foesegol ac yn iach, gan gynnwys cefnogiÌýeu gyrfaoedd, eu cydberthynas ag eraill, eu hiechyd a'u lles. Dylai fod tegwch mewn addysg, a dylid cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial (Llywodraeth Cymru, 2022,Ìý). Mae hyn yn golygu cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu ystod eang o sgiliau, profiadau ac ymagweddau sy'n eu galluogi i ffynnu.
Mae gan yr ysgol rôl allweddol wrth gyflawni hyn, ond mae amgylchedd y cartref a'r gymuned ehangach hefyd yn ddylanwadau sylweddol. Gan gydweithio ar draws yr ysgol, y cartref a'r gymuned, gallwn gefnogi ein plant a'n pobl ifanc yn fwy effeithiol. Credwn fod gan bob plentyn, pob teulu a phob cymuned gryfderau y gellir eu datblygu. Trwy weithio mewn partneriaeth, rydym yn gallu dod o hyd i’r atebion sy'n diwallu anghenion y dysgwr unigol a'u teulu yn well.
Prosiectau °¬²æAƬ a gyflwynir gan y rhaglen Ysgolion Bro
Buddiolwyr 2022/23 Ìý | Buddiolwyr 2023/24 | Buddiolwyr 2024/25 |
|
|
|
Ìý
Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm:ÌýTîm Trawsnewid Addysg
Rhif Ffôn: 01495 355470 /355132
Cyfeiriad: Cyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri, NP13 1DB
Cyfeiriad E-bost:Ìý21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk