°¬²æAƬ

Taith Addysg

Fel rhiant, bydd penderfynu ar addysg eich plentyn yn un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnewch. Mae 3 math o ysgol ym Mlaenau Gwent i ddewis o’u plith:

  • Ysgol cyfrwng Cymraeg (addysgu’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg);
  • Ysgol ffydd (Catholig a’r Eglwys yng Nghymru); a
  • Ysgol cyfrwng Saesneg (addysgu’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Saesneg)

Gorau po gyntaf y mae plentyn yn dysgu ail iaith, fodd bynnag gellir derbyn plant i leoliad cyfrwng Cymraeg ar unrhyw adeg ar eu taith addysgol. Caiff gosodiadau trochi cyfrwng Cymraeg eu datblygu ym Mlaenau Gwent fydd yn cefnogi trochi plentyn mewn addysg Gymraeg cyn symud i brif amgylchedd yr ystafell ddosbarth.

Derbyniadau Ysgolion

Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r awdurdod derbyn (Cyngor °¬²æAƬ) yn gyfrifol am leoli disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Wedyn dynodir lle i’r disgyblion hyn naill ai yng Nghampws Blaenau neu Dredegar gan dîm Arweinyddiaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Newyddion: Bydd Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn agor darpariaeth egin yn Nhredegar o fis Medi 2023 ar gyfer disgyblion Meithrin a Derbyn.

Gwnewch gais yma nawr

Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyniadau Ysgol

Gofynion Cludiant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn fwy hael na Mesur Teithio Dysgwyr Cymru. Cynigir cludiant am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol lle mae’r pellter rhwng y cartref a’r ysgol dros:

  • 5 milltir o’r cartref ar gyfer plant dan 8 oed a
  • 2 filltir o’r cartref ar gyfer plant 8 oed a throsodd

Mae hefyd gludiant am ddim ar gyfer disgyblion meithrin dros 1.5 milltir i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau 1 miliwn o ddysgwyr erbyn 2050.