°¬²æAƬ

Eithriadau’r Treth Gyngor

Mae rhai cartrefi wedi’u heithrio, gan gynnwys cartrefi ble mae myfyrwyr yn unig yn byw, a chartrefi gwag sydd:

  • heb ddodrefn (wedi’i eithrio am hyd at chwe mis)
  • dan berchnogaeth elusen (wedi’i eithrio am hyd at chwe mis)
  • angen addasiad strwythurol neu atgyweiriad mawr neu os yw’n digwydd nawr (wedi’i eithrio am hyd at ddeuddeg mis)
  • wedi cael eu gadael yn wag gan rywun sydd wedi mynd i’r carchar, neu sydd wedi symud i dderbyn gofal personol mewn ysbyty neu gartref rhywle arall
  • wedi cael eu gadael yn wag gan rywun sydd wedi symud er mwyn darparu gofal personol i berson arall
  • wedi cael eu gadael yn wag gan fyfyrwyr
  • yn aros i brofiant neu lythyron gweinyddiaeth gael eu cytuno (ac am hyd at chwe mis ar ôl hynny)
  • wedi cael eu hadfeddiannu
  • dan gyfrifoldeb ymddiriedolwr methdalu
  • yn wag oherwydd bod eu meddiannu wedi’i wahardd yn ôl y gyfraith
  • yn aros i gael eu meddiannu gan weinidog crefyddol

Os ydych yn credu y gallai’ch cartref fod wedi’i eithrio, dylech gysylltu ag Adran y Dreth Gyngor ar unwaith.

Pobl Anabl

Os ydych chi, neu rywun sy’n byw gyda chi, angen ystafell, ystafell ymolchi, ystafell wely neu gegin ychwanegol, neu le ychwanegol yn eich cartref oherwydd anghenion arbennig yn sgil anabledd, efallai y byddwch yn gymwys am ostyngiad ar eich bil Treth Cyngor. Gellir gostwng y gil i un o gartref yn y band is na’r band a ddangosir ar y rhestr brisio. Mae’r gostyngiadau hyn yn sicrhau na fod pobl anabl yn talu mwy o dreth oherwydd lle sydd ei angen oherwydd anabledd. Os yw’r cartref ym Mand A, o’r 1af o Ebrill 2003, mae’n bosib bydd gostyngiad yn cael ei roi fel rhan o’r cynllun hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael o Adran y Dreth Gyngor.

Eithriad/ Gorstyngiad Treth Gyngor: Nam Meddyliol Difrifol

Cartrefi Gwag ac Ail Gartrefi

. Mae rhai eiddo gwag wedi'u heithrio.Ìý Nid yw ail gartrefi neu gartrefi gwyliau yn derbyn unrhyw ostyngiad.Ìý

Ìý

Anecs Mam-gu

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer anecs neu ran hunangynhaliol debyg o gartref ble mae perthynas oedrannus neu anabl o breswylwyr gweddill y cartref yn byw, sef y dylid ei ystyried fel cartref ar wahân at ddibenion y Dreth Gyngor. Os ydych yn credu y bydd y cynigion hyn yn effeithio arnoch, cysylltwch ag Adran y Dreth Gyngor: Ffôn: (01495) 355212.

Gostyngiadau Treth Gyngor

Bydd gostyngiadau Treth Gyngor yn helpu pobl ar incwm isel i dalu eu biliau treth gyngor. Er enghraifft, os ydych ar Gymhorthdal Incwm, ni fyddwch fel arfer yn talu treth gyngor. Efallai byddwch yn gymwys am fudd-dal os ydych yn gweithio a bod eich incwm yn is na lefel benodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Budd-daliadau neu cliciwch ar y ddolen isod:

Gostyngiadau Treth Gyngor

Ffurflenni Eithrio

Mae’r ffurflenni hyn ar gael ar ochr dde’r dudalen hon. Mae angen eu hargraffu a’u dychwelyd at yr adran a nodir ar y ffurflen. Gellir lawrlwytho’r ffurflenni ar ffurf Adobe Acrobat. Byddwch angen Adobe Acrobat Reader i weld y ffurflenni hyn.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Adran y Treth Gyngor
Ffôn - (01495) 355212
Ffacs - (01495) 356132

Post - Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ Y Swyddfeydd CyffredinolÌýÌýHeol Gwaith Dur Glynebwy NP23 6DN

E-bost : CTax@blaenau-gwent.gov.uk