Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ wrthi'n edrych am unigolion angerddol i ymuno â'n cynllun 'Hyrwyddwr Sbwriel'. Os yw hyn yn swnio fel chi, i lofnodi nawr.
Er mwyn i ni godi safon glanweithdra yn y fwrdeistref, hoffem roi cyfle i wirfoddolwyr wneud gwahaniaeth drwy drefnu eu helfa sbwriel eu hunain. Gall helfa sbwriel fod yn hwyl a gwerth chweil, yn ogystal â ffordd wych i gael ychydig o amser.
Unwaith y byddwch wedi llofnodi a derbyn cyfarwyddyd byr am ddiogelwch gan ein cydweithwyr yn Cadw Cymru'n Daclus, cewch offer yn cynnwys y dilynol:
-
Gwasgod adlewyrchol 'hi-vis'
-
Codwr sbwriel
-
Menig
-
Cylch cyfleus
-
Bagiau
Yr hyn y gofynnwn i chi wneud
Ar gyfer dibenion ein data perfformiad, rydym yn annog ein gwirfoddolwyr i gofnodi'r achlysuron maent yn hel sbwriel a faint o fagiau a gasglant. Aiff y data yma tuag at ddangos yr effaith a gaiff ein Hyrwyddwyr Sbwriel o fewn y fwrdeistref.
I gofnodi eich data, mae'n rhaid i chi yn gyntaf fod wedi cofrestru fel Hyrwyddwr Sbwriel. Unwaith y cawsoch eich hyfforddiant cynefino, gallwch wedyn gofnodi eich data drwy fynd i adran 'Gwasanaeth Casglu Hyrwyddwr Sbwriel' ar ap symudol °¬²æAƬ, neu gallwch ffonio 01495 311556.
Diogelwch
Mae iechyd a diogelwch ein holl wirfoddolwyr yn hollbwysig i ni ac fel Hyrwyddwr Sbwriel bydd angen i chi dderbyn hyfforddiant cynefino byr ar ddiogelwch. Mae hyn yn sicrhau y cewch eich cynnwys dan gynllun yswiriant Cadw Cymru'n Daclus sydd wedi ei gynllunio'n benodol ar gyfer hyrwyddwyr sydd wedi cofrestru. Nid yw'r cynllun yswiriant hwn yn cynnwys unrhyw sy'n dymuno ymuno â chi neu grwpiau mwy.
Os dymunwch arwain grŵp neu'n rhan o grŵp presennol o wirfoddolwyr, cysylltwch â: group.funding@keepwalestidy.cymru a chewch wybodaeth ar gael yswiriant grŵp.
Bob tro rydych yn cynnal helfa sbwriel, byddwch yn gyfrifol am asesu'r amodau ar y dydd. Gallai hyn gynnwys iâ a rhew, niwl, gwynt uchel ac yn y blaen. Peidiwch mynd ymlaen gyda'ch helfa sbwriel os oes gennych bryderon.
Gallwn roi arweiniad a chyngor i chi, ond byddwch yn gyfrifol am eich diogelwch eich hunan, felly gofynnir i chi beidio cymryd unrhyw risg diangen.
Rhannu
Mae Hyrwyddwr Sbwriel yn hanfodol i'n helpu i hybu'r cynllun o fewn y gymuned leol ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Mae preswylwyr lleol yn gyflym i gydnabod y gwaith gwych a wnewch a rydym eisiau sicrhau eu bod yn gwybod yn union pa mor falch ydym o'n holl wirfoddolwyr.
Mae rhannu eich stori yn rhan hanfodol o'r broses ac yn ffordd llawer mwy effeithlon o ddod â'n hystadegau a ffigurau yn fyw. Eich straeon a lluniau personol sy'n helpu i hybu'r cynllun a helpu i amlygu pwysigrwydd gofalu am Flaenau Gwent a'r ardal o amgylch.
Gallwch ein helpu drwy rannu eich straeon ar a , yn defnyddio hashnod #BgLitterChamps Bydd yr hashnod yn ein galluogi i chwilio a rhannu eich profiadau gyda chynulleidfa ehangach.
Nodwch os gwelwch yn dda
Dim ond yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener) y gellir casglu eich sachau sbwriel.
I wneud cais am fagiau ychwanegol, edrychwch ar '' ar ap symudol °¬²æAƬ. Mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru fel Hyrwyddwr Sbwriel cyn defnyddio'r opsiwn yma.
Mae °¬²æAƬ yn cadw eich hawl i dynnu unrhyw Hyrwyddwyr Sbwriel o'r cynllun y teimlant nad ydynt yn weithredol neu nad ydynt yn rhoi diweddariad rheolaidd. Yn yr achosion hyn, bydd angen dychwelyd offer a roddwyd i chi.
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Glanhau Strydoedd
Rhif Ffôn: 01495 311556Â
Cyfeiriad e-bost:Â info@blaenau-gwent.gov.uk