°¬²æAƬ

Teithio Llesol – °¬²æAƬ

Beth yw teithiau byr, pwrpasol?

Mae taith teithio llesol yn golygu cerdded neu feicio i gyflawni tasgau bob dydd y byddech fel arall yn defnyddio car ar eu cyfer. Er enghraifft:

  • Cerdded gyda’ch plentyn neu ŵyr/wyres i’r ysgol ac yn ôl
  • Cerdded neu feicio i’r gwaith ac yn ôl
  • Cerdded neu feicio i’r orsaf drenau neu fysiau leol i ddal y trên ar gyfer taith ymlaen
  • Cerdded neu feicio i’r siop leol
  • Cerdded neu feicio i’r fferyllfa neu ganolfan gofal iechyd leol

Gwyliwch ein i gael rhagor o wybodaeth am deithio llesol.

Beth mae CBS °¬²æAƬ yn ei wneud am deithio llesol yn y gymuned?

Gyda chymorth y Gronfa Teithio Llesol, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, mae CBS °¬²æAƬ wedi gallu gwella ei rwydwaith presennol o lwybrau teithio llesol a chynllunio ar gyfer llwybrau teithio llesol yn y dyfodol gyda’r nod o wneud teithio llesol yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy pleserus i defnyddwyr.    

Mae’r mesurau teithio llesol a roddwyd ar waith hyd yn hyn yn amrywio o fân waith megis gosod cyrbau isel a phalmentydd botymog ar hyd ein rhwydwaith priffyrdd, i fesurau ar raddfa fwy, sy’n cynnwys adeiladu llwybrau cyd-ddefnyddio (cerdded a beicio) newydd a chroesfannau â signalau. Rydym hefyd yn gwneud gwaith dichonoldeb a dylunio ar gyfer llwybrau newydd y bwriedir eu hadeiladu yn y dyfodol.

Rydym wedi ymuno â’r elusen cerddwyr Strydoedd Byw i helpu i hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion drwy weithredu’r her WOW (Cerdded Unwaith yr Wythnos) mewn wyth o’i hysgolion cynradd ar draws y fwrdeistref. Mae’r her yn fenter dwy flynedd a arweinir gan ddisgyblion lle mae disgyblion yn hunanadrodd sut maent yn cyrraedd yr ysgol bob dydd gan ddefnyddio traciwr teithio WOW rhyngweithiol. Os ydynt yn teithio’n gynaliadwy o leiaf unwaith yr wythnos am fis, cânt eu gwobrwyo â bathodyn. Ers dechrau’r her, bu cynnydd o 73 y cant mewn dulliau teithio llesol ymhlith yr wyth ysgol sy’n cymryd rhan a gostyngiad o 43 y cant yn nifer y teithiau sy’n cael eu cwblhau yn gyfan gwbl mewn car (mae rhai disgyblion sy’n cael eu gyrru mewn car i’r ysgol bellach yn cael eu gollwng ymhellach i ffwrdd o’r ysgol fel y gellir cerdded rhan o’u taith i’r ysgol). Mae’r her bresennol i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2025. 

Rydym wedi datblygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol, gan gynnwys datblygu llwybrau newydd (y dyfodol) a gwella’r rhai presennol fel y gall trigolion ac ymwelwyr weld ble mae ein llwybrau presennol a lle mae ein llwybrau ar gyfer y dyfodol wedi’u cynllunio. Adolygir y map bob pedair blynedd a disgwylir y diweddariad nesaf yn 2026. Mae ein map presennol i’w weld yma: .

Os ydych yn gwybod am unrhyw lwybrau ym Mlaenau Gwent y gallai fod angen eu gwella ar gyfer cerdded a beicio, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am deithio llesol, cysylltwch â’r Swyddog Cymorth Teithio Llesol Kathryn Childs drwy anfon e-bost at kathryn.childs@blaenau-gwent.gov.uk

Cynlluniau teithio llesol arfaethedig yn 2024/25

  • Adeiladu ramp newydd addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, defnyddwyr pramiau a beicwyr rhwng Llecyn Aneurin, Bryn-mawr, a Heol Ganolraddol, Bryn-mawr
  • Gwelliannau teithio llesol i Heol Ganolraddol, Bryn-mawr 
  • Croesfan newydd â signalau ar yr A467 ym Mryn-mawr
  • Astudiaethau dichonoldeb a gwaith dylunio manwl i baratoi i ymestyn cyswllt gogledd/de Glyn-coed ymhellach i’r de
  • Gosod cyrbau isel ar hyd Stryd Canning a Stryd Forol yng Nghwm, Glynebwy
  • Adroddiad Cam 2 WelTAG i nodi opsiynau ar gyfer gwelliannau teithio llesol ar hyd yr A467 rhwng Abertyleri a Bryn-mawr
  • Datblygu Cynllun Datblygu Rhwydwaith Ysgolion i nodi gwelliannau teithio llesol ar hyd llwybrau ysgol yn Nhredegar 
  • Parhau gyda’r her WOW mewn wyth o’n hysgolion cynradd

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Estyniad cyswllt gogledd/de Glyncoed - Hoffem glywed eich barn ar lwybr cerdded a beicio newydd arfaethedig yn ardal Glyncoed.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn drwy glicio ar y ddolen isod a chwblhau'r arolwg byr isod.

Rhyfelwyr Lles Glyn-coed 

Rhyfelwyr Lles Ysgol Glyn-coed yn cefnogi prosiect WOW yr ysgol

Cynlluniau a gwblhawyd

Cyswllt gogledd/de Glyn-coed, Glynebwy

 

Croesfan twcan – yr A4047 y tu allan i archfarchnad Morrisons, Glynebwy

Cyrbiau isel a phalmentydd botymog ar hyd cyffyrdd yn Stryd y Brenin, Bryn-mawr

Cyrbiau isel a phalmentydd botymog yn Stryd Glandwr, Abertyleri

Lledu llwybrau troed, gosod wyneb newydd, a chyrbiau isel a phalmentydd botymog, Ffordd Gwent, Tredegar 

       

Ystruth, Blaenau

     

Croesfan, Heol Blaenau, Bryn-mawr

Croesfan twcan – Gelli Badminton, Glynebwy

Cyrbiau isel a phalmentydd botymog yn Stryd y Ddôl, Llanhiledd


Rydyn ni eisiau gwneud teithio llesol yn rhan arferol o fywyd bob dydd, cerdded i'r ysgol neu'r gwaith yn lle mynd â'r car, nid yn unig y mae'n iachach, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd.

Gadewch i ni wneud °¬²æAƬ yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.

Os hoffech chi gymryd rhan a helpu i ddatblygu eich rhwydwaith teithio llesol lleol, cysylltwch â Kathryn Childs - Swyddog Cefnogi Partneriaethau ac Ymgysylltu (Teithio Llesol) kathryn.childs@blaenau-gwent.gov.uk neu ewch i'r dudalen hon am ddiweddariadau yn y dyfodol.