Cynhelir yr Etholiadau nesaf ar gyfer Senedd Cymru ddydd Iau 6 Mai 2021
Mae etholiadau ar gyfer Senedd Cymru yn cael eu cynnal bob pum mlynedd.
Mae 60 o Aelodau’r Senedd (ASau) etholedig ac mae pump ohonynt yn eich cynrychioli chi. Mae un AS yn cynrychioli eich etholaeth yn y Senedd (AƬ) ac mae’r pedwar arall yn cynrychioli eich rhanbarth (Dwyrain De Cymru).
Mae Senedd Cymru yn cynrychioli pobl Cymru. Mae ganddi’r grym i wneud penderfyniadau yn y meysydd canlynol:
• amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig
• henebion ac adeiladau hanesyddol
•&Բ;徱ɲԳ
• datblygu economaidd
• addysg a hyfforddiant
• yr amgylchedd
• gwasanaethau tân ac achub
• iechyd a gwasanaethau iechyd
• priffyrdd a thrafnidiaeth
•&Բ;ٲ
• llywodraeth leol
• gweinyddiaeth gyhoeddus
• lles cymdeithasol
• chwaraeon a hamdden
•&Բ;ٷɰپٳ
• cynllunio tref a gwlad
• dŵr ac amddiffynfeydd rhag llifogydd
• y Gymraeg
Gall Senedd Cymru ddeddfu yn y meysydd hyn a gelwir y cyfreithiau hynny yn Filiau’r Senedd. Mae’r cyfreithiau hyn yn unigryw i Gymru a byddant yn adlewyrchu anghenion a phryderon penodol pobl Cymru.
Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig reolaeth dros rai gwasanaethau cyhoeddus a meysydd deddfwriaethol, megis cyfrifoldebau dros wasanaeth yr heddlu, nawdd cymdeithasol a chyflogaeth.
Pan fyddwch yn pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru, mae gennych ddwy bleidlais – un bleidlais i ethol aelod etholaethol ac un bleidlais i ethol eich aelod rhanbarthol.
Senedd Cymru – Etholaeth: AƬ
Yn y bleidlais ranbarthol, rydych yn dewis yr ymgeisydd rydych am iddo/iddi eich cynrychioli’n uniongyrchol.
Mae’r Etholaeth hon yn dilyn ffiniau Sir AƬ.
Senedd Cymru – Rhanbarth: Dwyrain De Cymru
Yn y bleidlais ranbarthol, rydych yn dewis o restr plaid neu ymgeiswyr annibynnol i gynrychioli eich rhanbarth h.y. nid ydych yn pleidleisio dros ymgeisydd unigol.
Mae Rhanbarth De Ddwyrain Cymru yn cynnwys yr Etholaethau dilynol:
AƬ
Caerffili
Casnewydd Dwyrain
Casnewydd Gorllewin
Islwyn
Merthyr Tudful a Rhymni
Sir Fynwy
Torfaen
Cyngor Bwrdeistref Sirol yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer y rhanbarth – y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol.
Bydd pob awdurdod lleol yn cyfrif ei bleidleisiau ei hunan ac yn darparu’r canlyniadau hyn i Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Blaenau Gwaith. Pan fydd y canlyniadau i gyd wedi’u casglu, bydd y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol yn datgan pwy sydd wedi eu hethol ar gyfer Rhanbarth Dwyrain De Cymru a chyhoeddir y canlyniad ar y wefan hon. Bydd hyn yn digwydd ddydd Gwener, 7 Mai 2021.
Dogfennau Cysylltiedig
- Hysbysiad Etholiad Etholiad Senedd Cymru ar Gyfer Etholaeth AƬ
- Hysbysiad Etholiad Rhanbarth Etholiadol De Ddwyrain Cymru
- Pwy sy’n cael pleidleisio yn yr Etholiadau
- Pwy na all bleidleisio yn yr Etholiadau
- Canllawiau diwrnod pleidleisio ym Mlaenau Gwent
- BLAENAU GWENT DATGANIAD CANLYNIAD Y PỐL
- AƬ Regional Declaration of Poll
- Datgan Canlyiad Y Bleidlais
Cofrestru i bleidleisio
- Gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio
- Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio – 6 Mai 2021
- Pleidleiswyr drwy’r post
- Pleidleiswyr drwy ddirprwy
- Pleidleiswyr drwy ddirprwy mewn argyfwng
Gwybodaeth Am Ymgeiswyr Ac Asiantau
- Gwybodaeth am Ymgeiswyr ac Asiantau
- Dyddiadau Allweddol
- Gwybodaeth Senedd Cymru ar gyfer Ymgeiswyr ac Asiantau Etholiad
- Pecyn enwebu – etholaeth – etholiadau Senedd Cymru
- Pecyn enwebu – ymgesiwyr rhanbarthol unigol – etholiadau Senedd Cymru
- Pecyn enwebu – ymgesiwyr rhestr ranbarthol plaid – etholiadau Senedd Cymru
Gwybodaeth Cyswllt
Gwasanaethau Etholiadol
Rhif Ffôn: 01495 369706 / 369707
Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk