Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan – Diweddariad Ar Osodiadau
Mae’r dudalen hon yn dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan at ddefnydd cyhoeddus ym Mlaenau Gwent.
Rhan bwysig o ymrwymiad newid hinsawdd y cyngor yw hyrwyddo’r defnydd o gerbydau trydan a darparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i breswylwyr na allant wefru eu cerbydau gartref.
Mae cerbydau trydan yn lleihau’n sylweddol yr allyriadau egsôst a gynhyrchir, o’u cymharu â cherbydau petrol a diesel, gan arwain at well ansawdd aer.
Ìý
Cam 1 – pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd mewn 11 safle ar draws y fwrdeistref
Sicrhawyd cyllid trwy weithio’n agos gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddarparu pwyntiau gwefru cyhoeddus. Mae’r pwyntiau gwefru wedi’u gosod a byddant yn cael eu cynnal gan gontractiwr penodedig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Connected Kerb. Mae’r contract wedi darparu tudalen cwestiynau cyffredin am bwyntiau gwefru cerbydau trydan y cwmni – yn amrywio o sut i wefru cerbyd i faint o amser mae’n ei gymryd a phris defnyddio gwefrwr. Gellir cyrchu’r cwestiynau cyffredin yma:
Gweler y tabl isod am leoliad y pwyntiau gwefru newydd sy’n barod i’r cyhoedd eu defnyddio:
Safle wedi’i gadarnhau |
Nifer y gwefrwyr ar bob safle |
Parc Bryn Bach, Tredegar |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Maes parcio Heol Tyleri, Cwmtyleri |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Parcio a Theithio Gorsaf Drenau Llanhiledd |
2 x 7kW (4 cilfan) |
Maes parcio Teras Cwm, Cwm |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Parcio a Theithio Gorsaf Drenau Glynebwy |
2 x 7kW (4 cilfan) |
Maes parcio Canolfan Siopa Gwent |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Maes parcio Canolfan Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu'r Cymoedd (ViTTC), Tredegar |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Maes parcio gyferbyn â’r Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Maes parcio’r Swyddfeydd Cyffredinol ger Gorsaf Drenau Tref Glynebwy |
2 x 7kW (4 cilfan) |
Maes parcio Sgwâr y Farchnad, Bryn-mawr |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Maes parcio Stryd William, Cwm |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Ìý
Cam 2 – cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer 9 lleoliad arall
Mae cyllid wedi’i sicrhau gan lywodraeth y DU, drwy’r Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau (OZEV), ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn lleoliadau eraill. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ategu gan gyllid gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae safleoedd Cam 2 wedi’u cadarnhau ac mae’r gwaith gosod wedi dechrau. Rydym yn rhagweld y bydd gwaith ar y rhan fwyaf o’r safleoedd wedi’i gwblhau erbyn dechrau mis Medi. Byddwn yn parhau i ddiweddaru statws pob gosodiad a nodir ar y tabl isod:
Ìý
Safle wedi’i gadarnhau |
Nifer y gwefrwyr ar bob safle |
Statws |
Maes parcio Briery Hill, Glynebwy |
1 x 22kW (2 gilfan)yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd |
yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd |
Maes parcio’r Ganolfan Iechyd, Abertyleri |
1 x 22kW (2 gilfan) |
Aros am gysylltiad |
Maes parcio Lower Salisbury Street, Tredegar |
1 x 22kW (2 gilfan) |
yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd |
Maes parcio Stryd Gwlad yr Haf / Stryd Caerwrangon, Bryn-mawr |
1 x 22kW (2 gilfan) |
yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd |
Maes pacio Stryd Arail, Six Bells |
1 x 22kW (2 gilfan) |
yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd |
Maes parcio Stryd Mitre, Abertyleri |
1 x 22kW (2 gilfan) |
yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd |
Maes parcio Sgwâr y Frenhines, Glynebwy |
1 x 22kW (2 gilfan) |
yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd |
Maes parcio oddi ar Stryd Canning, Cwm |
1 x 22kW (2 gilfan) |
yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd |
Maes parcio aml-lawr Abertyleri |
2 x 22kW (4 cilfan) |
Aros am gadarnhad o ddyddiad dechrau’r gwaith |
Ìý