Er mwyn rhedeg sefydliad marchogaeth (lle llogir ceffylau neu ferlod i’w marchogaeth neu i’w defnyddio ar gyfer gwersi marchogaeth) yn Lloegr, Yr Alban neu Gymru, bydd angen trwydded arnoch oddi wrth y Cyngor.
Pwy all wneud cais?
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Yn Lloegr a Chymru ac mae’n rhaid iddynt fod heb eu diarddel:
- rhag cadw sefydliad marchogaeth dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970
- rhag cadw siop anifeiliaid dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
- rhag cael cystodaeth o anifeiliaid dan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Gwelliant) 1954
- rhag cadw sefydliadau lletya i anifeiliaid dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
- rhag cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, bod yn gallu dylanwadu ar y modd mae anifeiliaid yn cael eu cadw, dosbarthu anifeiliaid neu drawsgludo neu â rhan mewn trawsgludo anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?
A oes yn rhaid i fi dalu ffi ymgeisio?
Oes. Os gwelwch yn dda, edrychwch ar y Ffioedd a’r Prisiau.
Sut caiff fy nghais ei brosesu?
Cyn penderfynu cais mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried adroddiad oddi wrth filfeddyg neu ymarferydd yn manylu a yw’r safle yn addas ar gyfer sefydliad marchogaeth ac yn manylu ar gyflwr y safle ac unrhyw geffylau.
Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried a yw’r ymgeisydd yn addas ac yn gymwys i ddal trwydded. Mae’n rhaid iddynt yn ogystal fod yn fodlon â’r canlynol: (a oes unrhyw ffordd o ddarparu ‘r testun glas drwy gyfrwng cyswllt- mae llawer i’w gopïo)
- y rhoddir ystyriaeth i gyflwr y ceffylau ac y cânt eu cynnal mewn iechyd da, eu cadw’n gorfforol heini a lle mae’r ceffyl i’w farchogaeth neu i’w ddefnyddio yn ystod gwersi marchogaeth, bod yr amodau’n addas i’r dibenion hynny
- y caiff traed yr anifeiliaid eu tocio’n gywir ac y caiff pedolau eu gosod yn gywir a’u bod mewn cyflwr da
- y bydd llety addas i’r ceffylau
- ar gyfer ceffylau gaiff eu cynnal ar borfa bod tir pori addas, cysgod a dŵr ac y darperir porthiant ychwanegol fel a phan fydd ei angen
- y darperir ar gyfer y ceffylau fwyd, diod a deunydd gorwedd addas ac y byddant yn cael eu hymarfer a‘u trin a’u gorffwyso ac yr ymwelir â hwy ar gyfnodau addas;
- y cymerir gofal i leihau clefydau heintus rhag lledu ac y bydd cyfarpar cymorth cyntaf milfeddygol a meddyginiaethau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnal a’u cadw;
- bod gweithdrefnau priodol yn eu lle i amddiffyn a symud y ceffylau petai tân ac, fel rhan o hyn, bod enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded yn cael eu harddangos y tu allan i’r safle ac yr arddangosir cyfarwyddiadau tân
- y darperir cyfleusterau storio ar gyfer porthiant, deunydd gorwedd, cyfarpar stabl, a chyfrwyaeth
Yn ychwanegol at unrhyw amodau eraill mae’n rhaid i drwydded sefydliad marchogaeth fod yn rhwym wrth yr amodau canlynol:
- na chaiff unrhyw geffyl a archwilir gan swyddog awdurdodedig a’i gael ag angen sylw milfeddyg ddychwelyd i weithio nes bod deiliad y drwydded wedi derbyn tystysgrif filfeddygol yn cadarnhau bod y ceffyl yn iach ar gyfer gwaith
- na chaiff ceffyl ei adael allan i’w logi neu i’w ddefnyddio mewn gwersi heb arolygaeth person cyfrifol 16 oed neu drosodd, oni bai bod deiliad y drwydded yn fodlon nad oes angen arolygaeth ar y marchog
- na adewir y busnes yng ngofal rhywun dan 16 oed
- bod deiliad y drwydded ag yswiriant indemniad
- bod deiliad y drwydded yn cadw cofrestr o’r holl geffylau yn eu meddiant sydd yn dair blwydd oed neu’n iau a bod y gofrestr ar gael i’w harolygu ar bob adeg resymol
Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?
Bydd eich cais yn cymryd dau fis i’w brosesu. Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Mae o ddiddordeb cyffredinol fod yn rhaid i’r Cyngor brosesu’ch cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor o fewn dau fis, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.
Gwneud cais ar-lein
A allaf i apelio os yw fy nghais yn methu?
Cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau trwydded a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.
Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo apelio i’w Lys Ynadon lleol. Gellir derbyn manylion ar hawliau apêl oddi wrth adran Iechyd yr Amgylchedd.
Gall unrhyw ddeiliaid trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm wrth eu trwydded apelio i’w Llys Ynadon lleol ond byddem yn cynghori eich bod yn cysylltu ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf.
Cwyn Defnyddiwr
Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch ag adran Iechyd yr Amgylchedd
Cymdeithasau Masnach
Gwybodaeth Gyswllt
Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â
Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB
¹ó´Úô²Ô: 01495 369542
Ffacs: 01495 355834