Beth yw Llety â Chymorth?
Mae'r Cynllun Llety â Chymorth yn darparu cartrefi i bobl ifanc 16 i 21 oed a all fod yn gadael gofal, neu nad ydynt efallai yn gallu byw gyda'u teuluoedd. Mae'r Cynllun yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau byw ymarferol, annibynnol fel y gallant maes o law symud ymlaen i'w llety annibynnol eu hunain.
Caiff y cynllun ym Mlaenau Gwent ei redeg gan Llamau ar ran Cyngor °¬²æAƬ.
A fedrwn i ddarparu Llety â Chymorth?
Pwy ydych chi'n edrych amdano?
Rydym yn edrych am bobl o wahanol gefndiroedd. Daw ein pobl ifanc o bob mathau o gefndir a diwylliant, ac mae'n bwysig ein bod yn cynnig cartrefi addas a phriodol iddynt.
Pa gymwysterau wyf i eu hangen?
Nid yw'n rhaid i chi gael unrhyw gymwysterau neilltuol i ddarparu llety - mae'n llawer pwysicach y gallwch groesawu person ifanc a gwneud iddynt deimlo'n ddiogel. Efallai y byddwch wedi gweithio gyda phobl ifanc o'r blaen, neu efallai y byddwch wedi magu eich plant eich hun, ond bydd gennych ddiddordeb ym mhryderon pobl ifanc ac yn mwynhau eu cwmni.
Beth am fy amgylchiadau teuluol?
Gallwch fod yn sengl, yn briod neu'n byw fel cwpl. Nid yw bwys p'un ai ydych yn byw mewn tÅ· neu fflat ond mae'n rhaid i chi fod ag ystafell wag, ac mae'n rhaid i chi fod yn fodlon rhannu eich cartref gyda'r person ifanc sy'n dod i fyw gyda chi.
Sut mae'n gweithio?
Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?
Nid yw rhai pobl ifanc sy'n gadael gofal neu na all fyw gyda'u teuluoedd yn barod i fyw ar eu pen eu hunain. Fel darparydd Llety â Chymorth byddwch yn helpu person ifanc i ddysgu'r sgiliau maent eu hangen i fyw'n annibynnol. Gall fod angen i chi gynnig help ymarferol iddynt gyda thasgau fel coginio, trin arian neu drefnu biliau. Gall fod angen i chi eu hannog gyda gwaith coleg neu roi cefnogaeth emosiynol iddynt. Mae pob person ifanc yn wahanol a mater i chi a nhw yw penderfynu gyda'ch gilydd pa fath o gefnogaeth maent ei hangen.
A fyddaf yn cael cwrdd â'r person ifanc cyn iddo/iddi symud i mewn?
Byddwch, er fod yn rhaid i'r Cynllun ddelio gydag argyfyngau weithiau.
Yn ddelfrydol, byddwch chi a'r person ifanc yn cwrdd gyda staff i weld sut ydych yn tynnu ymlaen ac i wneud yn siŵr nad oes unrhyw reswm amlwg pam na fydd y trefniant yn gweithio. Os aiff popeth yn iawn, bydd y person ifanc yn symud i'ch cartref yn raddol, gan aros un noswaith, yna nifer o nosweithiau, cyn symud i mewn yn llawn-amser maes o law. Gallwch adael i ni wybod ar unrhyw amser os teimlwch nad ydych eisiau cario ymlaen gyda'r lleoliad.
Weithiau rydym yn cael argyfyngau pan mae'n rhaid i ni ganfod llety yn gyflym iawn. Yn yr achos hwn, mae'n annhebyg y cewch gyfle i gwrdd â'r person ifanc ymlaen llaw, ond ni ofynnir i chi wneud dim nad ydych yn hapus gydag ef a dim ond os yw pawb yn hapus gyda'r trefniadau y bydd y person ifanc yn symud i mewn. Ni fyddwch byth yn gorfod cymryd achos argyfwng os na ddymunwch wneud hynny.
Pa mor hir fydd y person ifanc yn aros gyda fi?
Bydd gan bob person ifanc anghenion gwahanol ond eich rôl chi yw eu helpu i gyrraedd pwynt lle maent yn teimlo'n ddigon hyderus i fyw ar eu pen eu hunain. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o ddau fis i ddwy flynedd. Bydd yn dibynnu ar y person ifanc. Caiff eu dyddiad gadael ei gynllunio ymhell ymlaen llaw ac mewn cytundeb gyda chi, y person ifanc a staff Llamau.
Beth sy'n digwydd os wyf eisiau i'r person ifanc adael?
Os yw'ch amgylchiadau'n newid a'ch bod eisiau i'r person ifanc adael, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn dod o hyd i lety arall.
Os yw'r person ifanc yn ymddwyn yn afresymol atoch chi neu eich teulu, cysylltwch gyda ni a bydd staff Llamau yn trafod y problemau a chanfod datrysiad.
Pa gefnogaeth fyddaf yn ei chael
Pa hyfforddiant fyddaf yn ei chael?
I ddechrau, byddwch yn derbyn cefnogaeth gan Llamau fydd yn edrych ar eich rôl fel darparydd Llety â Chymorth a diogelu pobl ifanc.
Yn dilyn hynny, bydd cyfleoedd hyfforddiant parhaus gyda materion eraill a all effeithio ar y bobl ifanc a gaiff eu lleoli gyda chi, yn cynnwys hyfforddiant y gofynnwch chi amdano. Deallwn y gallwch fod ag ymrwymiadau eraill ond caiff cyrsiau hyfforddiant eu cynnal yn gyfnodol drwy gydol y flwyddyn.
Beth os oes gennyf gwestiynau rhwng sesiynau hyfforddiant?
Byddwn yn trefnu i weithiwr cynllun Llety â Chymorth ymweld â chi yn gyson ar amserau a gytunwyd i wneud yn siŵr fod popeth yn mynd yn iawn ac i ddelio gydag unrhyw broblemau a all ddigwydd. Gallwch hefyd gysylltu â staff Llamau yn ystod oriau swyddfa, dydd Llun i ddydd Gwener, gydag unrhyw gwestiynau a all fod gennych, pa bynnag mor fach y gallant ymddangos!
Beth ddylwn i wneud mewn argyfwng?
Mewn argyfwng mawr, cysylltwch â'r gwasanaethau argyfwng drwy ffonio 999. Ar gyfer unrhyw fath o argyfwng nad yw'r heddlu, ambiwlans neu wasanaethau tân yn ymwneud ag ef, gallwch ffonio'r Tîm Dyletswydd Argyfwng am gyngor ar 08003284432. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael tu allan i oriau swyddfa arferol a chaiff ei staffio gan weithwyr cymdeithasol.
Beth am arian?
Fyddaf i yn cael fy nhalu?
Byddwch! Byddwch yn cael lwfans o hyd at £145 yr wythnos am ddarparu llety. Caiff taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gan Llamau Cyf.
Bydd y person ifanc sy'n byw gyda chi yn talu tâl gwasanaeth a gytunwyd tuag at gost bwyd, gwres, goleuadau, dŵr ac yn y blaen.
A fydd y taliadau hyn yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
Na. Mae darparwyr llety yn derbyn lwfans na ddylai effeithio ar eu budd-daliadau. Gall staff Llamau eich cynghori ar yr hyn y mae gennych hawl iddo.
A fydd dod yn ddarparydd llety yn effeithio ar fy yswiriant?
Rydym yn awgrymu eich bod yn hysbysu eich cwmni yswiriant, gan y gall cymryd lletywyr effeithio ar eich polisi ar gyfer sicrwydd cynnwys.
Sut ydych chi'n penderfynu os wyf yn addas?
Cynhelir asesiad helaeth os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ddarparydd Llety â Chymorth. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr y bydd unrhyw berson ifanc sy'n dod i'ch cartref yn ddiogel, eich bod yn deall yn union yr hyn a ddisgwylir gennych ac y gallwn ddynodi unrhyw gefnogaeth y gallwch fod ei angen.
Beth mae'r broses gymeradwyo yn ei gynnwys?
- Cyfweliadau gyda chi a thri chanolwr a enwir gennych i ganfod mwy amdanoch fel person;
- Gwiriad eiddo i wneud yn siŵr fod y llety yn ddiogel ac addas;
- Gwiriad heddlu i ganfod am unrhyw euogfarnau blaenorol (dim ond euogfarnau troseddol difrifol fydd yn eich datgymhwyso yn awtomatig);
- Gwiriad gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau eich bod yn berson addas i weithio gyda phobl ifanc.
Unwaith mae'r holl wybodaeth berthnasol gennym, bydd panel yn cynnwys staff o Llamau yn ystyried eich cais.
Beth sydd angen i mi wneud nesaf?
Cysylltu â'r Gweithiwr Llety â Chymorth i drafod ymhellach.
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gwswllt
Cynllun Llety â Chymorth
Llamau
TÅ· Annog
Eureka Place
Glynebwy
°¬²æAƬ
NP23 6PN
¹ó´Úô²Ô: 01495 301351/07776841021
E-bost: laurenacornock@llamau.org.uk