Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn ymroddedig i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i gwsmeriaid, preswylwyr ac ymwelwyr i’r Fwrdeistref. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau yn dda a bod â staff sy’n ymroddedig i wneud gwaith da. Sylweddolwn y gall darpariaeth neu ansawdd ein gwasanaethau o bryd i’w gilydd siomi neu ragori ar ein disgwyliadau ni a/neu ddisgwyliadau ein cwsmeriaid a phan fydd hyn yn digwydd, rydym eisiau i’n cwsmeriaid ac ymwelwyr adael i ni wybod.
Fel Cyngor rydym yn gwerthfawrogi yr holl adborth – da neu wael – gan gwsmeriaid a defnyddiwn yr wybodaeth hon i wella a datblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a chymunedau lleol.
Canmoliaeth
Cysylltwch â ni ar y manylion cyswllt isod os gwelwch yn dda os cawsoch wasanaeth da gan y Cyngor, cael profiad da yn un o’n digwyddiadau neu ganmol un o’n staff am wneud gwaith da.
Mae canmoliaeth yn bwysig gan bod hynny yn ein galluogi i werthuso pa mor dda y caiff ein gwasanaethau eu darparu a chydnabod staff sydd efallai yn mynd ymhellach nag a ddisgwylid iddynt i roi profiad cadarnhaol i breswylwyr ac ymwelwyr. Rydym yn rhannu a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da ar draws meysydd gwasanaeth a defnyddiwn eich adborth i ddeall yr hyn sy’n bwysig i’n cwsmeriaid.
Os hoffech gyflwyno canmoliaeth gofynnir i chi lenwi y ar-lein. Gofynnir i chi ddefnyddio porwr tebyg i Chrome, Edge neu Safari i ddefnyddio’r ffurflen. Ni fydd yn gweithio ar Internet Explorer.
Yn lle hynny gallwch gysylltu â’r Cyngor yn y ffyrdd dilynol:
Ar gyfer holl wasanaethau’r Cyngor (heblaw Gwasanaethau Cymdeithasol)
Ffôn: (01495) 311556
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Ar gyfer Cwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwynion
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn ymroddedig i fod yn effeithiol wrth drin unrhyw bryderon neu gwynion a all fod gennych am ein gwasanaethau. Rydyn ni’n credu mewn trin pobl yn deg a dangos parch atynt, a gwrando ar ein cydwybod a gweithredu gydag uniondeb.
Anelwn egluro unrhyw faterion y gallech fod yn ansicr amdanynt. Os yn bosibl, byddwn yn unioni unrhyw gamgymeriadau y gallem fod wedi eu gwneud. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl iddo yr ydym wedi methu ei gyflenwi. Os gwnaethom rywbeth o’i le, byddwn yn ymddiheuro a lle’n bosibl, yn ceisio gwneud pethau’n iawn i chi. Anelwn ddysgu o’n camgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth a gawn o gwynion i wella ein gwasanaethau.
Cam 1: Datrysiad Anffurfiol
Byddwn yn cydnabod eich cwyn mewn 1 diwrnod gwaith ac ymchwilio eich cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith.
Os na fedrwn gadw at yr amserlenni hyn byddwn yn gadael i chi wybod ac yn cadw mewn cysylltiad â chi. Byddwn yn cysylltu gyda chi yn defnyddio’r dull a’r iaith o’ch dewis.
Os ydych yn cwyno ar ran rhywun arall, yn gyntaf mae angen i ni fodloni ein hunain fod gennych ganiatâd i weithredu ar ran y person dan sylw.
Byddwn yn trin eich cwyn fel bod yn gyfrinachol os nad yw’n fater sy’n rhaid cael ei adrodd tebyg i weithgaredd anghyfreithlon.
Byddwn yn delio â’ch consyrn mewn ffordd agored ac onest, ac yn gwneud yn siŵr na fydd eich ymwneud gyda ni yn y dyfodol yn dioddef dim ond oherwydd i chi fynegi pryder neu wneud cwyn.
Fel arfer dim ond os ydych yn dweud wrthym o fewn 9 mis y gallwn edrych ar eich cwyn. Mae hyn oherwydd ei bod yn well edrych ar faterion tra’u bod yn dal i fod yn newydd ym meddyliau pawb.
Os oes gennych chi gŵyn, llenwch y ar-lein. Defnyddiwch borwr fel Chrome, Edge neu Safari i ddefnyddio'r ffurflen. Ni fydd yn gweithio yn Internet Explorer.
Fel arall, gallwch gysylltu â'r Cyngor yn y ffyrdd canlynol:
Printiwch a llenwi'r ffurflen isod a'i hanfon at Adran Cwynion, y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Steelworks, Glynebwy, NP23 6DN
Galw: (01495) 311556E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Ar gyfer Cwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol
Os na fu’n bosibl datrys eich pryderon ar Gam 1 yna efallai y gallwch ofyn am ymchwiliad ffurfiol o’ch achos. Bydd angen i chi gyflwyno hyn yn uniongyrchol i’r Swyddog Cwynion Corfforaethol cyn gynted ag sy’n bosibl (fel arfer o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn eich ymateb Cam 1) a nodi’r rhesymau penodol pam na chredwch y cafodd eich cwyn ei chyfarch ar Gam 1.
Byddwn yn cydnabod eich cais i’ch cwyn gael ei chyfarch dan Gam 2 o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn ymgeisio ymchwilio ac ymateb i faterion o fewn 20 diwrnod gwaith. Fodd bynnag mae’n bwysig nodi y gall gymryd mwy o amser i gynnal ein hymchwiliadau ar eich cwyn ond os felly, byddwn yn eich hysbysu am hynny.
Gofynnir i chi nodi na fyddwn fel arfer yn ystyried cwynion am bethau a ddigwyddodd, neu faterion y daethoch i wybod amdanynt, fwy na chwe mis yn ôl. Os ydych yn cwyno am rywbeth a ddigwyddodd fwy na chwe mis yn ôl, gofynnir i chi sicrhau eich bod yn dweud pam na wnaethoch ein hysbysu am eich cwyn ynghynt fel y gallwn roi ystyriaeth i hynny. Byddwn yn ysgrifennu atoch cyn gynted ag sy’n bosibl yn esbonio ein penderfyniad i naill ai ymchwilio, neu wrthod ymchwilio, eich cwyn.
Cysylltwch â:
Melanie Rogers-Griffin
Swyddog Cwynion Corfforaethol
Ffôn: (01495) 355090
E-bost: melanie.rogers@blaenau-gwent.gov.uk
Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd y cafodd eich cwyn ei thrin neu os credwch nad yw’r Cyngor wedi cyfarch yn llawn y materion y gwnaethoch eu codi, gallwch ddymuno cyfeirio materion at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Fel arfer bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddod â’ch pryderon i’n sylw ni yn y lle cyntaf.
Os dymunwch wneud cwyn i’r Ombwdsmon neu os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae’r Cyngor wedi trin eich cwyn, ysgrifennwch at:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203 (cyfradd galwadau lleol)
E-bost: ask@ombudsman.wales
Gwefan:
Cwynion am y Gymraeg
Y Gymraeg, Safonau a Chydymffurfiaeth.
Bydd cwynion neu bryderon am y Gymraeg yn dilyn yr amserlenni a’r camau a amlygir ym mholisi’r Cyngor. Fel y cyfeiriodd y polisi hwn eisoes, bydd y Cyngor hefyd yn gwneud yn siŵr y bydd y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori gydag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol cyn penderfynu os yw’r awdurdod neu’r maes gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol neu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau a gytunwyd. Mae swyddogion yn gwybod am Safonau’r Gymraeg ar ôl mynychu hyfforddiant a’r Polisi Cwynion a Phryderon hyn drwy sesiynau gwybodaeth. Bydd swyddogion yn dilyn y dull corfforaethol wrth ddelio gyda chwyn am y Gymraeg a’n Safonau a gallant ymgynghori gyda Swyddog Cydymffurfiaeth a Rheolwr Gwasanaeth yr awdurdod dros y Gymraeg i gael mwy o gyngor.
Os oes gennych gŵyn gofynnir i chi lenwi y ar-lein. Gofynnir i chi ddefnyddio porwr tebyg i Chrome, Edge or Safari i ddefnyddio’r ffurflen. Ni fydd yn gweithio ar Internet Explorer.
Yn lle hynny gallwch gysylltu â’r Cyngor yn y ffyrdd dilynol:
Ffôn: (01495) 311556
E-bost: cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk
Os teimlwch na chafodd eich cwyn ei datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd ar eich rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, gallwch gwyno’n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Gallwch gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg drwy:
- Ffôn: 0845 6033221
- E-bost: post@welshlanguagecommissioner.org
- Ysgrifennu at: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau’r Farchnad, 5-7 Heol y Santes Fair, Caerdydd CF10 1AT
Mwy o help
Bydd ein staff yn anelu eich helpu i’ch hysbysu am ein pryderon. Os ydych angen cymorth ychwanegol, byddwn yn ceisio eich rhoi mewn cysylltiad gyda rhywun a all helpu. Gallwch ddymuno cysylltu â sefydliadau tebyg i Cyngor Ar Bopeth, Cymorth Eiriolaeth Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru neu Shelter a all fedru eich cynorthwyo.