°¬²æAƬ

Ymweld â Chanolfan Ailgylchu

Newidiadau i amseroedd agor Canolfannau Ailgylchu.

Yn dechrau Dydd Llun 24 Mehefin 2024.

Bydd y ddwy Ganolfan Ailgylchu nawr ar gau am ddiwrnod ychwanegol. Bydd y ddau safle bellach ar gau am 2 ddiwrnod yr wythnos.

Bydd Canolfan Ailgylchu Roseheyworth nawr ar gau bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher.

Bydd Canolfan Ailgylchu'r Fro Newydd nawr ar gau bob Dydd Iau a Dydd Gwener.

__________________________________________________________________________

Mae Canolfan Ailgylchu Roseheyworth ar agor 5 diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 5:30pm. Mae ar gau bob dydd Mawrth a dydd Mercher.

Parc Busnes Roseheyworth
Heol Roseheyworth,
Abertyleri,
NP13 1SP

Dim mynediad i Ganolfan Ailgylchu Roseheyworth ar ôl 5:20pm.

Mae Siop Ailddefnyddio The Den yn awr ar agor. Mwy o wybodaeth yma

__________________________________________________________________________

Mae Canolfan Ailgylchu Cwm Newyd ar agor 5 diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 5:30pm. Mae ar gau bob dydd Iau a dydd Gwener.

Canolfan Ailgylchu Cwm Newydd
Stad Ddiwydiannol Waun-y-Pound,
Glynebwy,
NP23 6PL

Dim mynediad i Ganolfan Ailgylchu Cwm Newydd ar ôl 5:20pm.

__________________________________________________________________________

Bydd angen i breswylwyr sy’n dymuno mynd i’r Canolfannau Ailgylchu mewn fan neu drelar i adael eu sbwriel cartref wneud cais am bas.

Dylid nodi na chaniateir i faniau dros 3.5 tunnell fetrig, faniau Luton neu gerbydau cefn gwastad tebyg, blychau ceffyl, carafanau a chartrefi modur i fynd i’n safleoedd.

I wneud cais am bas, ewch i:
Fy Ngwasanaethau Cyngor neu ffonio C2BG ar 01495 311556

__________________________________________________________________________

Gallwch ailgylchu metel, plastig, cardfwrdd, plastrfwrdd a disgiau cd, eitemau trydanol, carpedi, gwydr, olew, poteli nwy, rwbel a gwastraff gardd.

Gallwch ailgylchu dillad gwely megis cynfasau, gorchuddion duvet a gobenyddion, ond nid y gobenyddion neu duvet.

Gallwch ddod â bag bin du o eitemau na fedrir eu hailgylchu. Mae’n rhaid i chi ddidoli eich bagiau du yn eitemau y gellir eu hailgylchu ac eitemau na ellir ei hailgylchu.

Cyn i chi ymweld

Os ydych yn dod ag eitemau trwm ac yn methu eu codi ar eich pen eich hun, dewch â rhywun gyda chi a all helpu.

Pan gyrhaeddwch

Bydd gweithiwr safle yn cwrdd â chi.
Gofynnwch i un o’r gweithwyr safle os ydych angen help i ganfod sgip ar y safle.
Gellir gofyn i chi aros nes bod defnyddwyr eraill wedi gorffen dadlwytho eu cerbydau.

Rheolau Canolfannau Ailgylchu

1. Cadwch bob amser at y rheolau rheoli traffig sydd ar waith.
2. Mae angen didoli pob eitem a deunyddiau i fathau gwastraff e.e. pren, plastig, metal, gwydr ac yn y blaen cyn mynd i mewn – NI dderbynnir unrhyw ailgylchu
3. Ni chaniateir mynediad i gerddwyr oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.
4. Ni chaniateir unrhyw ysmygu na fepio yn ein Canolfannau Ailgylchu.
5. Byddwch yn barod i ddangos tystiolaeth o breswyliaeth i gael mynediad, tebyg i drwydded yrru neu fil cyfleustod.
6. NI chaniateir i chi fynd allan o’ch cerbyd pan fyddwch yn ciwio.
7. Parchwch ein staff. Gofynnir i unrhyw un sy’n sarhaus i staff i adael.
8. Gofynnir i chi fod yn amyneddgar gan y gall fod amser ciwio hir.
9. Cofiwch OLCHI eich dwylo’n drwyadl ar ôl gadael y safle.

Os ydych angen help 

Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach, ffoniwch y Ganolfan Cyswllt ar  01495 311556.  

Dogfennau Cysylltiedig