Gorfodi Parcio Sifil (GPS)
Bu Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn gweithredu ei Orchmynion Rheoleiddio Traffig ers 2019.
Nod Gorfodaeth Parcio Sifil yw:
- Gwella llif traffig a diogelwch ffyrdd ar draws y Fwrdeistref Sirol
- Gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy dibynadwy a gwella amserau teithio.
- Gostwng camddefnydd baeau parcio i’r anabl a phreswylwyr.
- Gostwng problemau parcio o amgylch ysgolion ac yng nghanol trefi.
- Gwella mynediad a gostwng oedi ar gyfer cerbydau argyfwng.
- Gwella mynediad i gerbydau dosbarthu.
- Gwella amodau ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a’r gymuned anabl.
Ers i Gyngor °¬²æAƬ weithredu toriadau parcio, bu cynnydd yn nifer ymholiadau a cheisiadau i’r Tîm Gorfodaeth Parcio Sifil ar gyfer gorfodaeth parcio ledled y fwrdeistref. Mae’r Tîm wedi paratoi rhestr o gwestiynau cyffredin i helpu cyfarch rhai o’r ymholiadau sydd ar gael yma;
Cwestiynau Cyffredin Gorfodaeth Parcio Sifil
Fodd bynnag, dylid nodi ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â Hysbysiad Tâl Cosb Parcio a gewch ym Mlaenau Gwent, y bydd angen i chi gysylltu â Grŵp Parcio De Cymru yn defnyddio un o’r opsiynau dilynol:
Ar-lein: www.swpg.co.uk
Post: SWPG, Blwch SP 112, Pontypridd, CF37 9EL
Ffôn: 03333 200867
*Edrychwch yn eich ffolderi post sbam rhag ofn i’r ymateb fynd yno
Cerbydau Gadawedig:
Dylid hysbysu Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor am gerbydau gadawedig. Anfonwch e-bost at EnvironmentalHealthMailbox@blaenau-gwent.gov.uk gyda manylion y cerbyd, gwneuthuriad, model lliw a lleoliad (stryd a threfn).
Cerbydau Di-dreth:
Y DVLA sy’n ymwneud â cherbydau di-dreth. Os dymunwch ddweud fod cerbyd yn ddi-dreth, ewch i Ìý
Mae manylion pellach ar gael ar wefan www.gov.uk.