Cyn priodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil, mae'n rhaid i'r naill a'r llall ohonoch roi hysbysiad yn bersonol yn eich Swyddfa Gofrestru leol, lle bynnag y byddwch yn cynnal eich seremoni. Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent, ffoniwch 01495 353374 i drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda.
Lle dylwn fynd am yr apwyntiad?
Gallwch fynychu'r Swyddfa Gofrestru i roi hysbysiad priodas neu bartneriaeth sifil. Canfod manylion parcio ac amserau agor swyddfa gofrestru.
Pryd mae'n rhaid i ni roi hysbysiad?
Bydd angen i chi fod wedi byw ym Mlaenau Gwent am o leiaf 8 diwrnod cyn y gallwch roi hysbysiad. Ar Ă´l i'r naill a'r llall ohonoch roi hysbysiad, mae'n rhaid i chi aros am o leiaf 28 diwrnod cyn y gellir cynnal eich seremoni. Mewn cyfnodau prysur gall fod yn rhaid aros 2 i 4 wythnos am apwyntiad felly gofynnir i chi sicrhau eich bod yn caniatau digon o amser.
Am ba mor hir mae'n hysbysiad yn ddilys?
Mae hysbysiad yn ddilys am 1 flynedd, felly dim ond am hyd at 1 flwyddyn cyn eich seremoni y gallwch roi hysbysiad.
Dogfennau y dylech ddod â nhw gyda chi pan fyddwch yn rhoi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil
Pan wnewch apwyntiad i roi hysbysiad, bydd y cofrestrydd yn esbonio pa ddogfennau y dylech ddod gyda chi. Caiff y dogfennau hyn eu gosod yn gyfreithiol felly'n aml ni fydd dogfennau eraill yn dderbyiol. Efallai na fyddwch yn medru rhoi rhybudd cyfreithiol os na ddangoswch y dogfennau gofynnol felly mae'n rhaid trafod hyn gyda'r Cofrestrydd Goruchwylio cyn i chi fynychu'r swyddfa gofrestru. Y dogfennau sydd eu hangen yw:
- Pasbort
- Tystysgrif geni
- Gweithred unran
- Archddyfarniad terfynol
- Trwydded yrru
- Tystiolaeth o gyfeiriad (bil cyfleustod)
- Bil Treth Gyngor
Faint yw'r gost?
Bydd angen talu ffi hysbysiad o ÂŁ35.00 y person.