°¬²æAƬ

Adolygiad Cyntaf Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)

Er mwyn sicrhau bod y cynllun datblygu’n gyfredol, mae’n rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol gynnal adolygiad cyflawn o’u CDLlau, pedair blynedd ar ôl dyddiad eu mabwysiadu.  Sbardunodd CDLl °¬²æAƬ adolygiad ym mis Tachwedd 2016.

Ymgymerwyd ag ymgynghoriad wedi'i dargedi â rhan-ddeiliaid, gan gynnwys ymgynghoriad mewnol gyda rhai o swyddogion arbenigol y cyngor ac ymgynghoriad allanol gydag ystod eang o sefydliadau lleol, cyrff y mae’n rhaid yn statudol ymgynghori â hwy a sefydliadau eraill.  Golygodd hyn ymgynghoriad ffurfell ar Bapur Trafod a chynnal gweithdy rhan-ddeiliaid.  Adroddwyd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ffurfiol a’r gweithdy rhan-ddeiliaid yn yr Adroddiad Ymgynghoriad - Adolygiad.

Adroddiad Adolygu

Seiliwyd yr adolygiad ar ganlyniadau Adroddiadau Monitro Blynyddol cyhoeddedig, ar newidiadau sylfaenol o ran y cyd-destun ac ar ddiweddariadau i’r sylfaen dystiolaeth (Papurau Cefndir ac Adolygiad Fframwaith y GC) a gwaith adolygu parhaol.

Canlyniad yr adolygiad oedd cynhyrchu Adroddiad Adolygu.  Mae’r Adroddiad Adolygu yn nodi’r angen i ddiwygio’r CDLl ar ôl y broses adolygu gyflawn ac fe fydd hynny'n cynnwys ailystyried y strategaeth ac ymestyn cyfnod y Cynllun.