°¬²æAƬ

Lwfans Tai Lleol

Os ydych yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat a'ch bod ar incwm isel, efallai y gallwch hawlio Budd-dal Tai yn seiliedig ar Lwfans Tai Lleol (LHA).

Mae'r swm o Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol a dderbyniwch wedi'i seilio ar nifer yr ystafelloedd gwely mae'ch teulu ei angen.

Caiff un ystafell wely ei chyfrif ar gyfer:

  • pob oedolyn neu gwpl oedolion
  • person nad yw'n blentyn (16 oed a throsodd)
  • pob dau blentyn dan 16 oed os ydynt o'r un rhyw
  • pob dau blentyn dan 10 oed (pa bynnag ryw)
  • gofalwr heb fod yn breswyl os ydych chi neu'ch partner angen gofal dros nos
  • caniateir un ystafell ychwanegol i ofalwyr maeth cyn belled â'u bod wedi meithrin plentyn neu wedi dod yn ofalwr maeth cymeradwy o fewn y 52 wythnos ddiwethaf
  • gall rhieni gyda phlant wedi tyfu lanÌý sy'n aelodau o'r lluoedd arfog sydd fel arfer yn byw gyda nhw gadw'r ystafell wely ar gyfer y plentyn hwnnw sydd wedi tyfu lan pan maent i ffwrdd ar waith y lluoedd arfog.

Caiff symiau'r Lwfans Tai Lleol eu hadolygu ar 1 Ebrill bob blwyddyn.

Y cyfraddau ar gyfer 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025 yw:

Ìý ÌýÌý Cyfradd wythnosol

Rhannu llety

£69.04

1 ystafell wely

£75.00

2 ystafell wely

£98.96

3 ystafell wely

£112.77

4 ystafell wely

£149.59

Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun a’ch bod o dan 35 mlwydd oed, mae gennych yr hawl i’r gyfradd ystafell mewn llety a rennir. Fodd bynnag, mae gan rai o’r sawl o dan 35 yr hawl i’r gyfradd un ystafell wely, yn eu plith mae:

  • os ydych yn derbyn yr elfen gofal canol neu uchaf o'r lwfans byw anabledd
  • os ydych dros 25 oed ac wedi treulio o leiaf dri mis mewn hostel (neu hostelau) arbenigol ar gyfer pobl ddigartref ac mai prif ddiben yr hostel(au) oedd darparu llety, gofal, goruchwyliaeth neu gefnogaeth i gynorthwyo adsefydlu yn y gymuned.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol
Glynebwy
Cyfeiriad E-bost:Ìýbenefits@blaenau-gwent.gov.uk