Strategaeth a chynllun ar gyfer delio gyda rheolaeth risg llifogydd ym Mlaenau Gwent.
Yn dilyn y llifogydd sylweddol yn 2007, rhoddodd y Llywodraeth bwerau newydd i awdurdodau lleol i helpu rheoli risg llifogydd lleol mewn ffordd fwy cydlynol.
Mae yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau arwain wrth gydlynu rheoli risg llifogydd ar gyfer dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr llai yn eu hardal. Mae llifogydd prif afonydd yn parhau'n gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ wedi paratoi strategaeth rheoli risg llifogydd lleol a chynllun rheoli risg llifogydd.
Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd
Mae'r strategaeth anelu i ostwng effaith risg llifogydd ar bobl, busnesau a'r amgylchedd.
Mae crynodeb y Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol hefyd ar gael.
Cynllun Rheoli Risg Llifogydd
Mae Cynllun Rheoli Risg Llifogydd yn amlinellu sut y caiff risgiau llifogydd a ddynodwyd eu rheoli a'u lliniaru dros y 6 mlynedd nesaf.
Cynhaliwyd Asesiad Amgylcheddol Strategol ar y strategaeth a'r cynllun rheoli risg llifogydd.
Dogfennau Cysylltiedig
- Strategaeth Risg Llifogydd CBSBG
- Crynodeb Risg Llifogydd Lleol BG
- Cynllun Cyflawn Rheoli Risg Llifogydd CBSBG
- Asesiad Amgyclheddol Strategol Rheoli Risg Llifogydd
- Diweddariad i’r adroddiad asesiad cychwynnol o’r bygythiad llifogydd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ
Gwybodaeth Gyswllt
Enw'r Tîm: Seilwaith
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Gwasanaethau Technegol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, Gwent NP23 6XB
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk