Mewn argyfwng
Os yw dŵr yn dod i mewn i'ch eiddo neu os oes risg i fywyd, ffoniwch y gwasanaethau argyfwng ar 999.
Cysylltwch â'r Tîm Argyfyngau Sifil os yw dŵr yn dod i mewn i'ch eiddo neu os yw dan ddŵr ac angen siarad gyda rhywun i gael mwy o gyngor:
Yn ystod oriau gwaith: 01495 355568
Tu allan i oriau gwaith: 01495 311556
Llifogydd o briffyrdd
Dylid rhoi adroddiad am lifogydd a achosir gan ddraeniau neu gwlïau yn gorlifo o fewn y rhwydwaith priffyrdd a gaiff ei reoli gan Gyngor Bwrdeisdref °¬²æAƬ i'r Adran Priffyrdd ar y manylion cyswllt islaw:
Ffôn: 01495 311556
Dylid rhoi adroddiad am lifogydd a achosir gan ddraeniau neu gwlïau yn gorlifo ar gefnffyrdd (A465) i Asiantaeth Trafnidiaeth De Cymru.
Llifogydd o afonydd
'Prif afonydd'
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reoli llifogydd o afonydd mawr, a elwir yn 'brif afonydd. O fewn °¬²æAƬ yr afonydd yma yw:
Afon Sirhywi
Afon Ebwy
Afon Ebwy Fach
Dylid hysbysu am lifogydd o 'brif afonydd' neu ffoniwch y llinell argyfwng
Llinell ffôn frys 0800 80 70 60 (24 awr)
I wrando ar recordiad o wybodaeth ar rybuddion llifogydd ar gyfer eich ardal neu i siarad gyda rhywun i gael cyngor, ffoniwch 0345 988 1188 (24 awr).
Afonydd eraill
Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ sy'n gyfrifol am lwybrau dŵr llai, na chafodd eu dosbarthu fel 'prif afonydd'. Cysylltwch â 01495 311556.
Llifogydd o garthffos gyhoeddus, prif bibell ddŵr wedi torri neu bibell gwasanaeth dŵr
Dylid rhoi adroddiad am lifogydd o'r ffynonellau hyn i:
Dŵr Cymru ar 0800 0853968 (24 awr)
Llifogydd o bob ffynhonnell arall
Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ sy'n gyfrifol am reoli'r risg yn deillio o lifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin (cyrsiau dŵr llai a ffosydd).
Os ydych yn profi llifogydd o ddŵr wyneb (dŵr ffo neu byllau), dŵr daear neu unrhyw gyrsiau dŵr bach neu ffosydd (cyrsiau dŵr cyffredin), defnyddiwch yr e-ffurflen ar y dudalen hon neu gysylltu â ni ar 01495 311556.
Llifogydd hanesyddol
Bydd gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o lifogydd hanesyddol ar draws y fwrdeisdref yn ein helpu i ganolbwyntio ein hadnoddau a'n cyllid ar yr ardaloedd hynny sydd fwyaf agored i lifogydd.
Rydym yn gweithio i baratoi tudalen gwefan i'ch galluogi i lanlwytho gwybodaeth sydd gennych ar lifogydd cyfredol a hanesyddol.
Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw wybodaeth berthnasol ar lifogydd hanesyddol, yn cynnwys ffotograffau, anfonwch unrhyw wybodaeth at y tîm seilwaith yn defnyddio unrhyw rai o'r islaw os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Gyswllt
Enw'r Tîm: Seilwaith
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Gwasanaethau Technegol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, Gwent NP23 6XB
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk