Gyda’u hymweliad blynyddol i Ŵyl Llenyddiaeth a Chelfyddydau y Gelli wedi’i chanslo eto eleni, fe wyddai Ysgol Sefydledig Brynmawr yn union beth i’w wneud ac aethant ati i drefnu eu Gŵyl Lenyddol rithiol eu hunain.
Mae ‘Gorwelion Newydd’, sy’n hyrwyddo dechreuadau newydd ar ôl blwyddyn a fu’n heriol yn emosiynol, yn ddigwyddiad 5-diwrnod ar-lein gyda rhai o enwau amlycaf byd llenyddiaeth a’r celfyddydau. A’r hyn sydd yn well byth – mae croeso i unrhyw un sy’n hoff o’r gair ysgrifenedig a llafar i fwynhau’r ŵyl am ddim. Mae staff a disgyblion wrth eu bodd gan y caiff ein Gŵyl Lenyddol ei hagor yn rhithiol gan Stephen Fry. Mae’r ysgolion cynradd sy’n bwydo Ysgol Sefydledig Brynmawr hefyd yn cymryd rhan, mae’n ddigwyddiad cymunedol go iawn.
Bydd y cyffro yn dechrau am 8am ddydd Llun 14 Mehefin 2021.
Bydd dolen ar gyfer y rhaglen lawn o westeion a mwy o wybodaeth amdanynt ar gael yn fuan gyda’r holl sesiynau ac adnoddau ar wefan yr ysgol a chyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos: https://www.brynmawrfoundationschool.co.uk/
Facebook – Brynmawr Foundation School a Twitter - @Brynmawr_school
Mae’r enwau adnabyddus sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl yn cynnwys:
• Chris Rankin – actor Prydeinig a anwyd yn Seland Newydd sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae Percy Weasley yn ffilmiau Harry Potter
• Jackie Morris – arlunydd, artist ac awdur gwobrwyol yn rhyngwladol dros ddeugain o lyfrau plant
• Kat Ellis – awdur o Ogledd Cymru, sy’n oedolyn ifanc
• Stephen Jones – hyfforddwr undeb rygbi Cymru a chyn-chwaraewr a chwaraeodd dros Gymru fwy na 100 gwaith a chwe gwaith ar gyfer y Llewod Prydeinig a Gwyddelig.
• Simon Lancaster – un o brif ysgrifenwyr areithiau y byd. Dechreuodd ysgrifennu areithiau ddiwedd y 1990au, gan ysgrifennu ar gyfer aelodau o Gabinet Tony Blair.
• Justin Davies – Actor o Gymru sy’n fwyaf adnabyddus am y gyfres ddrama gomedi deledu Stella. Cyn ddisgybl yn Ysgol Sefydledig Brynmawr.
• Richard Parks – cyn chwaraewr rygbi’r undeb rhyngwladol dros Gymru cyn troi’n athletydd gwytnwch eithafol a chyflwynydd teledu.
• Aaron Dembski-Bowden – nofelydd poblogaidd iawn y New York Times. Awdur ffantasi ffuglen wyddonol a toreithiog.
Cefnogir yr ŵyl gan Gyngor °¬²æAƬ; Impact Wales Education; Bookish, siop lyfrau annibynnol leol; Gwasg Prifysgol Rhydychen a Gŵyl y Gelli ei hunan. Bydd Bookish hefyd yn cynnig disgownt a gwobrau cyffrous i ddisgyblion, a chyfleoedd eraill i ddathlu llenyddiaeth drwy gydol yr wythnos.
Dywedodd Gerard McNamara, Pennaeth Ysgol Sefydledig Brynmawr:
“Mae ein disgyblion wrth eu bodd gydag unrhyw gyfle i ymgolli mewn llenyddiaeth a darllen, ac maent yn arfer mwynhau ein hymweliad blynyddol i Ŵyl y Gelli yn fawr iawn. Mae’r pandemig wedi effeithio ar gynifer o’n cynlluniau addysgol yn y flwyddyn ddiwethaf hon ac fe wnaeth siom digwyddiad arall wedi’i ganslo i ni feddwl am greu ein Gŵyl Lenyddol yma ein hunan i’r ysgol.
"Diolch i waith gwych ein staff a pharodrwydd enwau amlwg iawn i gymryd rhan, mae’r syniad wedi magu momentwm go iawn ac wedi tyfu yn ddathliad cyffrous o lythrennedd a dysgu ac rydym yn falch iawn i fedru rhannu hynny gyda phawb. Rwy’n falch iawn o’n hysgol wych ac mae hyn yn dechrau llawer mwy o bethau cyffrous i ddod.â€
Ychwanegodd Nathan Atkins (cydlynydd Llythrennedd Ysgol Sefydledig Brynmawr):
“Mae gwella llythrennedd disgyblion yn un o’n blaenoriaethau allweddol a rydym newydd fuddsoddi yn y rhaglen Darllenydd Cyflymach wrth i ni ddechrau ar y fenter i greu ein llyfrgell ysgol ein hunain y gobeithiwn fydd yn agor ym mis Medi. Caiff byd rhithiol ac electronig darllen eu gwerthfawrogi a’u mwynhau gan lawer, yn cynnwys ein disgyblion a staff, fodd bynnag mae’n aml yn rhwyddach ymgolli mewn llyfr heb fod sgrin yn ymyl.
"Mae rhoi cyfleoedd i’n disgyblion i ymchwilio llenyddiaeth, eu hannog i ddarllen ac ymestyn eu dychymyg a sicrhau y cyflawnir eu huchelgais yn hanfodol ar gyfer eu cynnydd a llwyddiant yn y dyfodol. Bydd creu ein dathliad llenyddol ein hunain yn helpu i roi llythrennedd a darllen yn fwy byth ar y map ar gyfer ein disgyblion ac yn helpu i ddathlu ein disgyblion ymhellach ym Mrynmawr a hefyd ar draws °¬²æAƬ a hyd yn oed ymhellach. Rydym i gyd yn edrych ymlaen ym Mrynmawr ac yn methu aros i 14 Mehefin gyrraedd!â€
Caiff ysgolion ar draws °¬²æAƬ eu hannog i ymuno yn yr ŵyl.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor °¬²æAƬ:
“Mae’r Ŵyl a drefnodd Ysgol Sefydledig Brynmawr yn rhagorol. Mae’n edrych mor gyffrous, ac rwy’n falch iawn y bydd ein holl ysgolion yn cael cyfle i gymryd rhan drwy gydol yr wythnos nesaf.
Rydym yn ymroddedig i barhau i weithio’n agos gyda’n hysgolion i sicrhau fod ein plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau posibl sydd ar gael er mwyn ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.â€
Dywedodd Sadie Evans, Prif Ferch Ysgol Sefydliadol Brynmawr:
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yng ngŵyl lenyddol gyntaf fy ysgol! Mae hwn yn gyfle gwych i’n holl ddisgyblon a’r gymuned leol i rannu wrth ddathlu llenyddiaeth a’r celfyddydau.â€