°¬²æAƬ

Ysgol Gymraeg newydd y Fwrdeistref i agor mewn cartref dros dro ym mis Medi 2023 ar gyfer disgyblion Meithrin a Dosbarth Derbyn

Mae Cyngor °¬²æAƬ yn adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd, fydd yn cynnwys darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn Chartist Way, Sirhywi, Tredegar.

Rhagwelir y bydd y gwaith o adeiladu’r ysgol wedi ei gwblhau mewn pryd ar gyfer dechrau tymor academaidd 2024, fodd bynnag sicrhawyd gofod dros dro yn Nhŷ Bedwellte ar gyfer disgyblion oed Meithrin a Dosbarth Derbyn sydd wedi cofrestru ar gyfer yr ysgol newydd, fel y gallant ddechrau ym mis Medi eleni.

Mae’r ysgol ‘egin’ 210-lle yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu cyfleoedd addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol. Caiff yr ysgol ei datblygu yn unol â safonau a amlinellir yn rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor wedi sicrhau £13.4 miliwn o gyllid cyfalaf drwy Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a chynlluniau Grant Cyfalaf Gofal Plant Llywodraeth Cymru i symud ymlaen i adeiladu’r ysgol.

I ddechrau bydd yr ysgol newydd  - ‘Ysgol Gymraeg Tredegar’ -  mewn ffederasiwn gydag Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ysgol gynradd Gymraeg bresennol y fwrdeistref sirol, a bydd yn rhannu’r un Corff Llywodraethu a Phennaeth.

Bydd yr ysgol yn galluogi’r Cyngor i ateb y galw cynyddol am ofal plant a lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Bydd safle’r ysgol hefyd yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, ardal chwarae coedwig, perllan a dolydd blodau gwyllt. Bydd yr ysgol hefyd yn ymwybodol o hinsawdd gyda phaneli solar a mannau gwefru cerbydau trydan.

Caiff ardal chwarae ar y safle hefyd ei symud fel rhan o’r prosiect ar yr un safle a gosodir celfi chwarae newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg y Cyngor:

“Rydym yn parhau i symud ymlaen gyda’n cynlluniau cyffrous ar gyfer addysg Gymraeg yn y fwrdeistref, fel y gallwn gynnig mwy o ddewis i rieni a gofalwyr ac ateb y galw. Er mwyn cael yr ysgol ar waith, bu’n rhaid i ni ganfod adeilad arall ar gyfer y flwyddyn academaidd gyntaf ac mae’r tîm wedi gweithio’n galed i sicrhau Tŷ Bedwellte a sicrhau ei fod yn addas i’r diben ar gyfer y plant fydd yn mynychu.

“Nid yw hi byth yn rhy hwyr i feddwl am gael addysg Gymraeg i’ch plentyn, ac mae ein hysgol Gymraeg bresennol yn awr yn cynnig dysgu trochi ar gyfer unrhyw ddisgybl a hoffai groesi’r bont ychydig i mewn i’w taith addysg.â€

Dywedodd Ann Toghill, Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Helyg:

“Mae pawb ym Mro Helyg yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda’r ysgol newydd er mwyn datblygu addysg Gymraeg ymhellach ym Mlaenau Gwent. Mae croeso i unrhyw rieni a hoffai gael sgwrs anffurfiol am yr ysgol i fy ffonio ar 01495 355830 neu i drefnu ymweliad i’r ddarpariaeth bresennol.â€

Bydd yr ysgol newydd yn dechrau fel ‘darpariaeth egin’ gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i gynnig darpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2029.

I gael mwy o wybodaeth am fod yn ddwyieithog a thaith addysgol Cymru ewch i - /en/resident/schools-learning/becoming-bilingual/