°¬²æAƬ

Ymgysylltiad y Cyhoedd ar Drawsnewid Iechyd Meddwl Oedolion yn Gwent

Mae’n bleser gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu lansio ymgysylltiad cyhoeddus newydd yn swyddogol fel modd o wella gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion ar draws Gwent.

Hoffai’r Bwrdd Iechyd wahodd trigolion Gwent i rannu eu profiadau a’i barn ar sut y gallwn drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion Gwent. Ein nod yw darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu tosturiol ac o safon uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n gweithio’n galed i greu canlyniadau ardderchog i unigolion a’u gwarchodwyr.

Mae’r trafodaethau sy’n digwydd yn rheolaidd o fewn ein gwasanaethau wedi ein helpu i feddwl mewn ffordd wahanol ynglÅ·n â sut y gallwn ail ddylunio ein gwasanaethau iechyd meddwl. Gwyddom nad yw’r gwasanaethau bob amser yn teimlo’n gydgysylltiedig. Rydym eisiau i bob unigolyn sy’n derbyn cymorth gael y profiad a’r canlyniadau gorau posibl.  Rydym eisiau i bobl allu cael mynediad at wasanaethau o safon uchel, mor agos â phosibl i’w cartref arferol, yn eu cymunedau. Bydd hyn yn eu helpu i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty pan fydd hynny’n bosibl. Pan fydd unigolion angen cefnogaeth mewn ysbyty, rydym eisiau iddynt deimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y staff iawn, yn yr amgylchedd iawn. Rydym eisiau gweld cytundeb ar ganlyniadau pendant a phwyslais ar wella.

Rwyf wrth fy modd ein bod yn lansio’r ymgysylltiad ffurfiol yma er mwyn gofyn barn pobl ar ein syniadau a’n cynigion. Er mwyn datblygu’r gwasanaethau gorau posib, rydym eisiau cymryd barn cymaint o bobl ag sy’n bosibl i ystyriaeth, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau, gofalwyr, ffrindiau, teuluoedd, ein staff a’n partneriaid. Mae’n holl bwysig o ran y dyfodol ein bod yn cael cefnogaeth y rheiny sy’n defnyddio ein gwasanaethau, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r cyhoedd, er mwyn i ni allu cyflwyno model gwasanaeth iechyd meddwl sydd wedi ei ddylunio ar y cyd rhwng y rheiny sy’n defnyddio ac yn darparu’r gwasanaethau.

Byddem yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgysylltiad yma a rhoi eu barn. Gwyddom o’r adborth yr ydym wedi ei dderbyn eisoes bod egni a dyhead i weithio gyda’n gilydd er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Gwent. Mae’r ymgysylltiad ffurfiol yma’n cynnig cyfle ardderchog i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl blaengar sy’n canolbwyntio ar wellhad ac sy’n cynnig gofal, tosturi a chefnogaeth ragweithiol. Drwy weithio gyda’n gilydd i siapio ein cynlluniau, gall pawb wneud gwahaniaeth positif.

Darllenwch y Dogfennau Ymgysylltu â'r Cyhoedd, dyddiadau cyfarfodydd a gwybodaeth bellach ar dudalen Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Ngwent.

  • I ddarllen ein syniadau 
  • I gwblhau ein holiadur ar-lein
  • I ofyn am wybodaeth am ddyddiadau a sut i fynd i’n cyfarfodydd rhithwir ‘Covid-Safe’ cyhoeddus
  • Gofynnwch gwestiwn i ni