°¬˛ćAƬ

Y Gweinidog Plant yn clywed safbwyntiau rhieni o ran pwysigrwydd rhoi ffiniau i blant mewn ffordd gefnogol

Roedd y Gweinidog yn cwrdd â rhieni sydd wedi manteisio ar gymorth Dechrau’n Deg. Bu hefyd yn trafod gyda rhieni sy'n Llysgenhadon “Camu'n ôl am 5” sef ymgyrch gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant. Gwnaeth y rhieni hyn helpu i lunio a hyrwyddo ymgyrch” Camu'n ôl am 5” y Gymdeithas, ymgyrch sy'n rhoi cyngor ac awgrymiadau i rieni i'w helpu i beidio â gwylltio mewn sefyllfaoedd heriol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth sy'n dileu'r amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru ac yn buddsoddi mewn cymorth i rieni. Bydd y pecyn hwn o fesurau yn cefnogi plant i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac i gefnogi eu rhieni i wneud eu gorau glas.

Yn sail i'r ddeddfwriaeth hon fydd ffynonellau cymorth gwahanol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd a rhaglenni Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cymorth i deuluoedd, sef Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.  Mae ein hymgyrch 'Magu Plant: Rhowch amser iddo" yn ffynhonnell arall lle y gall rhieni gael gafael ar wybodaeth a chyngor o'r radd flaenaf ar ddulliau positif o fagu plant a chael cyngor ar sut i ddelio â materion penodol fel strancio a dysgu sut i ddefnyddio'r poti.

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn darparu ystod o ddulliau cymorth i rieni sy'n cwmpasu'r holl wybodaeth a chyngor sydd ar gael i bawb, grwpiau rhianta, a chymorth dwys sydd wedi'i dargedu.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

"Roedd hi'n wych clywed barn y rhieni hynny yng Nglynebwy heddiw. Maent yn eiriolwyr cadarnhaol ar gyfer rhianta cadarnhaol a thrwy eu gwaith fel Llysgenhadon “Camu'n ôl am 5” y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant byddant yn annog rhieni eraill i gael cymorth pan fydd ei angen arnynt.

"Gall rhieni wneud tipyn i annog gwell ymddygiad gan eu plant drwy ddefnyddio strategaethau rhianta cadarnhaol. Mae plant bob amser yn gwneud eu gorau glas pan fyddant yn cael eu caru a'u gwerthfawrogi, yn gwybod bod rhywun yn cadw llygad arnynt ac yn gwybod beth yn union a ddisgwylir ganddynt. Mae canmol plant am eu hymddygiad da yn fwy effeithiol o lawer na’u cosbi’n llym am gamymddwyn. Fel Llywodraeth, rydym eisiau sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Wrth ddileu'r amddiffyniad cosb resymol byddwn yn adeiladu ar y newid sydd eisoes yn digwydd yn agweddau rhieni. 

"Mae gwahardd cosbi corfforol yn trosglwyddo neges gref sy'n annog rhieni i ddefnyddio dulliau cadarnhaol wrth rianta sy'n well o lawer i les ein plant.

Cafwyd ychydig o dan 1,9000 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynnig deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir canlyniad yr ymgynghoriad maes o law.

Dywedodd Vivienne Laing, Rheolwr polisi a chysylltiadau cyhoeddus Cymru i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant:

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn deall y gall rhianta fod yn heriol i rieni yn ogystal â rhoi boddhad mawr iddynt. Ond gall y ffordd yr ydym yn ymddwyn tuag at ein plant wneud gwahaniaeth mawr yn eu datblygiad.

"Mae ein hymgyrch "Camu'n ôl am 5" yn rhoi cyngor a chymorth i rieni ar gyfer delio ag ymddygiad heriol eu plant mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol. Mae'n helpu rhieni a gofalwyr i beidio â gwylltio, i gadw'u pen a dod o hyd i ddulliau i reoli straen a rhwystredigaeth wrth edrych ar ôl plant bach.

"Mae clywed am brofiadau'r Llysgenhadon o Lynebwy yn dangos sut mae'r syniadau hynny'n cael eu rhoi ar waith. Yn yr un modd mae ymweliad y Gweinidog Plant yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rianta cadarnhaol.

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar fentrau sydd o fudd i rieni a phlant yng Nghymru, gan gynnwys dileu'r amddiffyniad cosb resymol mewn achosion o ymosod ar blant.