Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, mewn datganiad, gymeradwyaeth ar gyfer prosiectau Band (B) ar draws Cymru. Dywedodd: "Mae Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach wedi cynnig ÂŁ2.3bn o brosiectau, sy'n bodloni amcanion buddsoddi Band B y Rhaglen. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r holl brosiectau hyn, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes."
Ym Mlaenau Gwent, mae'r prosiectau Band (B) a gyflwynwyd gan y tîm Trawsnewid Addysg, yn cynnwys:
- Ail-fodelu ystad yr ysgol uwchradd yn helaeth
- Ysgol gynradd newydd ar gyfer 360 lle
- Ysgol hadu ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Adnewyddu ystad yr ysgol gynradd
Bydd y prosiectau'n cael eu cynnal ar ysgolion sydd wedi eu nodi gan y Cyngor fel prosiectau blaenoriaeth ac sydd angen gwelliant sylweddol. Ariennir y prosiectau i gyd 50/50 gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cyng Clive Meredith, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor °¬˛ćAƬ:
"Ym Mlaenau Gwent rydym yn eiriolwyr mawr o'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac, wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o Band (A), rydym wedi gallu gwneud gwelliannau sylweddol i rai o'n hystadau ysgol presennol, yn ogystal ag adeiladu ysgolion newydd. Mae hyn yn cefnogi ein hymrwymiad parhaus i ddod â chyfleusterau addysgol hyd at safonau'r 21ain ganrif a chodi dyheadau a safonau ar gyfer pob dysgwr.
"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar y prosiectau cyffrous yr ydym wedi'u cyflwyno ar gyfer y cam nesaf hwn."
â—Ź Yn y llun mae Campws Cynradd Tillery Street (cyn Ysgol Gynradd Abertyleri), a adeiladwyd fel rhan o gyllid Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Band (A).