Mae'r Weithrediaeth yn falch o gefnogi cynnig diwygiedig, i gytuno mewn egwyddor, i waredu ei ddiddordeb rhydd-ddaliol o'r Sinema a chyn ardal y Llyfrgell i'r Sinema Neuadd y Farchnad a'r Ymddiriedolaeth Celfyddydau. Mae hyn yn amodol ar amodau ariannol a chyfreithiol dyledus sy'n cael eu cytuno gyda'r Ymddiriedolaeth o fewn y 4 mis nesaf. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda'r Ymddiriedolaeth ac eisiau ymgymryd â thrafodaethau i symud ymlaen gyda'r nod o gael canlyniad cadarnhaol er lles pawb.
Mae'r Cyngor, ei Arweinyddiaeth ac Aelodau Ward Brynmawr bob amser wedi bod yn ac yn parhau i fod yn gefnogol i Sinema Neuadd y Farchnad Brynmawr a'r Ymddiriedolaeth Celfyddydau. Mae'r gefnogaeth hon wedi cynnwys darparu cefnogaeth swyddogion technegol sylweddol yn rhad ac am ddim a chyllido rhannau helaeth o'r gwaith adfer er mwyn sicrhau bod y sinema yn ddiogel i'w ailagor yn dilyn ei gau dros dro ddiwedd 2016 hyd at ganol 2017.
Mae'n siomedig bod yr Ymddiriedolaeth wedi penderfynu gwrthod y telerau ariannol arfaethedig heb gymryd y cyfle i gwrdd ag Arweinyddiaeth a swyddogion y Cyngor cyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill. Fodd bynnag, tra'n cytuno mewn egwyddor i'r trosglwyddiad, cytunodd y Weithrediaeth hefyd am gyfnod o hyd at 4 mis yn ystod y cyfnod hwnnw y dylai fod digon o amser i'r Cyngor ac Ymddiriedolwyr gyfarfod i ddod o hyd i ffordd ymlaen gytûn.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i drafodaethau agored gyda'r Ymddiriedolaeth ac wedi cyflwyno'r hyn y mae'n ei ystyried yn gyfres o amodau ariannol a chyfreithiol cytbwys sy'n gysylltiedig â throsglwyddo'r rhydd-ddaliad a gynlluniwyd i amddiffyn buddiannau'r ddau barti. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:
• Y Cyngor i ddarparu cyngor Iechyd a Diogelwch a chynnal a chadw eiddo i'r Ymddiriedolwyr.
• Mae angen cyrraedd cytundeb dros amodau ariannol ac ad-dalu dyled hanesyddol i'r Cyngor.
• Mae cynnig cyfredol y Cyngor yn cynnwys cyllid pellach o £47,000 ac mae'r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ymddiriedolaeth ariannu cost glanhau amgylcheddol yr ardal yn dilyn gwaith adeiladu anawdurdodedig a wnaed yn yr ardal gan yr Ymddiriedolaeth a gyfeiriwyd yn ddiweddarach at Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch gan arwain at ymchwiliad a rhybudd o dramgwydd yn erbyn yr Ymddiriedolaeth. Mae'r canfyddiadau hyn yn fater o gofnod cyhoeddus.
• Mae'r egwyddorion hyn yr un â'r rhai a gymhwysir i sefydliadau cymunedol eraill sydd wedi cael caniatâd i drosglwyddo asedau ac yn sicrhau y gall y Cyngor ddangos defnydd priodol o arian cyhoeddus.
Mae'r toiledau cyhoeddus a weithredir gan gontractwr annibynnol yn cael eu heithrio o'r trosglwyddiad.
Mae'r Cyngor yn croesawu trafodaethau pellach gyda'r Ymddiriedolaeth fel y gellir gwneud cynnydd a galluogi'r ddau barti i drafod ffordd gytûn i symud ymlaen.