°¬²æAƬ

Trefniadau Gwasanaeth y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2018/19

Bydd swyddfeydd Cyngor °¬²æAƬ yng Nglynebwy ac Abertyleri ar gau o 5pm ddydd Gwener 21 Rhagfyr 2018 ac yn ailagor ddydd Mercher 2 Ionawr 2019.

Bydd swyddfeydd Cyngor °¬²æAƬ yng Nglynebwy ac Abertyleri ar gau o 5pm ddydd Gwener 21 Rhagfyr 2018 ac yn ailagor ddydd Mercher 2 Ionawr 2019.

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) ar gau o 5pm ddydd Gwener 21 Rhagfyr 2018 ac yn ailagor ddydd Mercher 2 Ionawr 2019 am 8am.

Gellir cysylltu â'r gwasanaeth Argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gwasanaeth larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid gwneud ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa ar  0845 056 8035.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa'r Tîm Dyletswydd ar gau o 4.30pm ddydd Gwener 21 Rhagfyr 2018 ac yn ailagor ddydd Mercher 2 Ionawr 2019 am 9am.

Yn ystod cyfnod y Nadolig cysyllwch â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar  0800 328 44 32.

Gwasanaeth Cofrestrydd °¬²æAƬ

Amserau Agor Swyddfa Cofrestrydd Nadolig 2018

  • Dydd Llun 24 Rhagfyr 2018  - AR GAU             
  • Dydd Mawrth 25 Rhagfyr - AR GAU.
  • Dydd Mercher 26 Rhagfyr 2018 - AR GAU.
  • Dydd Iau 27 Rhagfyr 2018 - 10am i 2pm
  • Dydd Gwener 28 Rhagfyr 2018 - 10am i 2pm
  • Dydd Llun 31 Rhagfyr 2018 - AR GAU
  • Dydd Mawrth 1 Ionawr 2019 - AR GAU
  • Dydd Mercher 2 Ionawr 2019 - 9am i 1pm
  • Dydd Iau 3 Ionawr 2019 - 9am i 1pm
  • Dydd Gwener 4 Ionawr  2019 - 9am – 4pm

Desg Arian a Thaliadau

Bydd Gwasanaethau Cwsmeriaid Budd-daliadau a'r ddesg arian yn cau am 5pm ddydd Gwener 21 Rhagfyr 2018. Bydd y ddesg arian yn ail-agor ddydd Mercher, 2il Ionawr 2019 am 8.30am a bydd y Gwasanaethau Cwsmer Budd-daliadau yn ailagor am 10am.

Ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gwneud taliadau rhwng y dyddiadau hyn bydd y llinell dalu awtomatig 24-awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy wefan °¬²æAƬ.

Opsiynau Cymunedol a Gwasanaethau Dydd

Bydd prosiectau Cymorth Cymunedol a phrosiectau gwaith o fewn Gwasanaethau Dydd Gwasanaethau Cymdeithasol ar gau rhwng dydd Gwener 21 Rhagfyr 2018 ac yn ail-agor ddydd Mercher 2 Ionawr 2019.

Casgliadau Ailgylchu a Sbwriel - Trefniadau'r Nadolig

Bydd casgliadau Ailgylchu a Sbwriel dri diwrnod yn hwyr yn ystod cyfnod y Nadolig eleni. Os yw'ch dyddiad casglu arferol ar:

  • Dydd Llun 24 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Iau 27 Rhagfyr 2018;
  • Dydd Mawrth 25 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Gwener 28 Rhagfyr 2018;
  • Dydd Mercher 26 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Sadwrn 29 Rhagfyr 2018;
  • Dydd Iau 27 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Sadwrn 30 Rhagfyr 2018;
  • Dydd Gwener 28 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Llun 31 Rhagfyr 2018.

Bydd casgliadau Ailgylchu a Sbwriel ddau ddiwrnod yn hwyr yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd. Os yw'ch dyddiad casglu arferol ar:

  • Dydd Llun 31 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Mercher 2 Ionawr 2019;
  • Dydd Mawrth 1 Ionawr 2019 caiff ei gasglu ar ddydd Iau 3 Ionawr 2019;
  • Dydd Mercher 2 Ionawr 2019 caiff ei gasglu ar ddydd Gwener 4 Ionawr 2019;
  • Dydd Iau 3 Ionawr 2019 caiff ei casglu ar ddydd Sadwrn 5 Ionawr 2019;
  • Dydd Gwener 4 Ionawr 2019 caiff ei gasglu ar ddydd Sul 6 Ionawr 2019;

Bydd pob casgliad yn dychwelyd i'r patrwm arferol o ddydd Llun 7 Ionawr ymlaen.

Gwasanaeth Casglu Cewynnau a Glanweithdra

Caiff sachau Cewynnau a Glanweithdra ei gasglu o du blaen eich eiddo ar:

Dydd Gwener 21 Rhagfyr 2018.

Ni fydd unrhyw gasgliad ddydd Gwener 28 Rhagfyr 2018

Caiff y casgliad Cewynnau a Glanweithdra oedd i ddigwydd ar ddydd Gwener 4 Ionawr 2019 ei gynnal ar ddydd Sul 6 Ionawr 2019.

Bydd casgliadau wythnosol arferol sachau Cewynnau a Glanweithdra yn ailddechrau ddydd Gwener 11 Ionawr 2019.

Ailgylchu eich Coeden Nadolig

Bydd Adran Gwastraff y Cyngor yn darparu gwasanaeth i gasglu ac ailgylchu eich Coeden Nadolig o ddydd Llun 7 Ionawr 2019. Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 i gofrestru eich manylion neu cofrestrwch ar adran Fy Ngwasanaethau Cyngor ar wefan y cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk i gadarnhau diwrnod casglu ar gyfer eich Coeden Nadolig.

Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Domestig, Safle Amwynder Dinesig Cwm Newydd

Bydd Safle Amwynder Dinesig Cwm Newydd ar agor yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd rhwng 10.00am a 4.30pm  [Dydd Llun - Dydd Gwener] a rhwng 8.00am a 4.30pm [Dydd Sadwrn / Dydd Sul] i breswylwyr gael gwared â deunydd gwastraff. Bydd y safle ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan yn unig.

Cyfeiriad: Stad Ddiwydiannol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6PL

Gwybodaeth Ychwanegol ar gyfer y Nadolig

  • Dim ond cardiau cyfarch plaen y gellir eu hailgylchu, yn anffodus ni fedrir ailgylchu gliter, rhubanau a bathodynnau a bydd yn achosi'r cerdyn i gael ei wrthod. 
  • Ni fedrir ailgylchu papur lapio Nadolig, rhowch mewn bag du/bin ar gyfer eich casgliad sbwriel 3 wythnos os gwelwch yn dda.
  • Dylai cardfwrdd ychwanegol gael ei bacio'n wastad a'i roi wrth ymyl eich blychau ailgylchu.
  •  Gellir casglu eitemau trydanol bach, batris a thecstilau yn wythnosol ar yr un pryd â'ch casgliad ailgylchu rheolaidd. Rhowch eitemau mewn bag a'u rhoi un ai ben neu wrth ochr eich blychau ailgylchu os gwelwch yn dda.