°¬²æAƬ

Mae Swyddogion Safonau Masnach yn rhybuddio’r cyngor i fod yn wyliadwrus rhag masnachwyr twyllodrus posibl.

Mae Swyddogion Safonau Masnach °¬²æAƬ yn rhybuddio’r cyhoedd a’r gymuned fusnes i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag masnachwyr twyllodrus posibl a all fod yn gweithredu yn yr ardal.

Wrth i’r tywydd ddechrau gwella, mae’n debygol y byddwn yn gweld cynnydd yn y masnachwyr sy’n mynd o ddrws i ddrws yn cynnig gwasanaethau adeiladu, gwaith to, llwybrau/lonydd a thirlunio.

“Rydym yn rhoi cyngor cryf i bobl i beidio ymrwymo i gontract gyda phobl sy’n galw ar garreg y drws gan y gall fod yn anodd iawn cael unrhyw iawndal yn nes ymlaen os aiff rhywbeth o chwith a bod y gwaith o safon isel iawn. Peidiwch â chael eich twyllo gan unrhyw gynigion sy’n ymddangos i fod yn wir – mae’n debyg mai felly y mae hi.â€

Sut i sylwi ar Fasnachwr Twyllodrus

  • Gwerthwyr eofn – gallant gynnig gwasanaethau gwella tai tebyg i drwsio to a gwteri am bris isel.
  • Gallant ddefnyddio tactegau codi braw – gallant dweud fod angen brys am y gwaith. Gallant achosi difrod yn fwriadol wrth asesu’r gwaith.
  • Gofyn am symiau mawr o arian ymlaen llaw – gallant fynnu ar yrru’r cwsmer i’r banc i gael taliad ar unwaith.
  • Cynyddu’r pris – caiff yn aml ei wneud wrth i’r gwaith symud ymlaen neu ddechrau gwaith ychwanegol heb awdurdod.
  • Rhoi’r argraff eu bod yn gwmni dilys – Bydd eu henw masnach ar eu faniau/gwaith papur ynghyd â rhifau ffôn/cyfeiriadau e-bost ond yn aml nid ydynt yn rhoi cyfeiriad daearyddol neu’n rhoi cyfeiriad sydd yn bodoli ond nad yw’n gysylltiedig â’r busnes. Yn y pen draw nid ydynt eisiau i chi wybod pwy ydyn nhw ond byddant yn rhoi’r argraff y rhoddir gwybodaeth lawn am y cwmni.

Sut i ddiogelu rhag Masnachwr Twyllodrus

  1. Peidio byth â chytuno i gael gwaith wedi’i wneud neu dalu arian ar garreg eich drws.
  2. Gofyn bob amser am ddyfynbris ysgrifenedig gan o leiaf ddau fasnachwr am unrhyw waith.
  3. Defnyddio eich teulu, ffrindiau a chael argymhellion am fasnachwyr da.
  4. Bod yn ofalus iawn am ddefnyddio masnachwyr na wyddoch ddim amdanynt hyd yn oed os ydych yn dod o hyd iddynt ar y rhyngrwyd.
  5. Gwirio y busnes mewn cynifer o ffyrdd ag y gallwch. Cymerwch rif cofrestru cerbyd y masnachwr a gofyn am dystiolaeth o bwy yw’r perchennog.
  6. Os cytunwch ar waith ac mae’n dechrau ond y daw’n amlwg nad dyna’r hyn y gwnaethoch ofyn amdano neu yn ansawdd gwael iawn dywedwch wrth y masnachwr am stopio ar unwaith a pheidio rhoi unrhyw arian iddynt nes byddwch wedi cael ail barn gan fasnachwr arall.
  7. Mae gennych 14 diwrnod i ganslo unrhyw nwyddau a gwasanaethau dros £42 a brynwch yn eich cartref. Os na fydd rhywun yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi yn dweud sut ac i bwy y mae’n rhaid i chi ganslo – maent yn cyflawni trosedd.
  8. Dylech bob amser gytuno ar y pris, trefniadau talu a dyddiau dechrau/gorffen cyn dechrau ar unrhyw waith i’ch cartref.
  9. Gofyn am enw llawn y masnachwr a’u manylion banc ar gyfer dibenion talu fel eich bod yn gwybod gyda phwy yr ydych yn gwneud contract gyda nhw. Osgowch dalu gydag arian parod.
  10. Peidio â thalu yn llawn nes eich bod yn hollol fodlon gyda’r gwaith.
  11. Cadw eich cartref a’ch eiddo yn ddiogel pan fydd y gwaith yn mynd rhagddo.
  12. Os credwch i chi gael eich twyllo, yn bryderus am fasnachwr neu os oes gennych unrhyw amheuon ffoniwch 101 neu Llinell Gymorth Defnyddwyr ar 0808 223 1133.