Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid AƬ sy’n gyd-enillwyr yng nghategori – ‘Datblygu eich Hunan ac Eraill mewn Gosodiad Gwaith Ieuenctid’ yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid. Mae’r wobr yn cydnabod tîm, sefydliad neu unigolyn sydd wedi dangos rhagoriaeth wrth ddatblygu sgiliau gwaith ieuenctid, gwybodaeth ac arbenigedd eu hunain ac eraill.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid AƬ yn cefnogi pobl ifanc AƬ sydd rhwng 11-25 oed gan gynnig cefnogaeth, gwybodaeth ac arweiniad mewn nifer o raglenni mynediad agored ac wedi’u targedu.
Mae cynllun datblygu gweithlu a strategaeth llesiant yn allweddol i’w safonau gwasanaeth uchel. Mae hyn yn sicrhau y caiff yr holl staff eu hyfforddi’n dda ac y gallant ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon i bobl ifanc y fwrdeistref.
Dywedodd Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Interim Ieuenctid:
“Roedd hwn yn gategori anodd i’w feirniadu gyda llawer o ymgeiswyr cryf. Ar ôl llawer o drafodaeth a phwyso a mesur, penderfynodd y beirniaid wobrwyo cyd-enillwyr, gan fod ganddynt safbwyntiau gwahanol iawn ar arddangos rhagoriaeth yn y categori – mae un yn wasanaeth ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid AƬ a’r llall yn unigolyn, Declan Greenshields o Evolve (Gwasanaethau Pobl Ifanc Abertawe )”.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn cydnabod a dathlu cyfraniadau rhagorol gweithwyr ieuenctid a’r rhai sy’n ymwneud â phrosiectau ieuenctid ledled Cymru. Wedi’u trefnu gan Lywodraeth Cymru, mae’r gwobrau pwysig hyn yn gydnaws â blaenoriaethau strategol Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru. Mae’r Strategaeth newydd yn gosod cyfres o egwyddorion lefel-uchel a chamau gweithredu ar y cyd i wella gwaith ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc.
Ychwanegodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredo Addysg:
“Rwyf mor falch o’r hyn y mae Gwasanaeth Ieuenctid AƬ wedi’i gyflawni, yn arbennig gan fod calibr yr ymgeiswyr yn y categori hwn mor uchel. Mae’n wir yn dangos ymroddiad ac ymrwymiad parhaus tîm Gwasanaeth Ieuenctid AƬ yn ystod y cyfnod anodd hwn”.
Mae naw prif categori o wobrau sy’n adlewyrchu cyfnod pontio Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, gan arddangos amrywiaeth gyfoethog y gwaith ieuenctid sy’n mynd rhagddo ledled Cymru. Eleni, oherwydd y pandemig coronafeirws, cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar-lein am 3pm ddydd Gwener 9 Hydref.
Medrir gweld ymgeiswyr rowndiau terfynol ac enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2020 ar YouTube: https://youtu.be/xZ5XEoR7erM