°¬²æAƬ

Tîm Arlwyo Ysgolion wrth eu bodd i ennill gwobr genedlaethol

Mae tîm arlwyo ysgolion °¬²æAƬ wedi ennill Gwobr Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru am eu hymroddiad i ymestyn prydau ysgol am ddim ar gyfer pob disgybl ysgol gynradd.

Mae °¬²æAƬ o flaen targed Cymru i ddarparu cinio ysgol am ddim i bob disgybl oedran cynradd gan fod gan yr holl ddisgyblion cynradd yn y fwrdeistref eisoes hawl i’n prydau blasu a iach yn hollol rad ac am ddim!

Aeth llawer iawn o waith i wneud i hyn ddigwydd, yn arbennig wrth recriwtio o’r gymuned leol, hyfforddi staff a chydweithio gyda’r adran Addysg, y bwrdd iechyd lleol, dietegwyr, cyflenwyr a Gwasanaethau Technegol i wella ceginau ysgol i ymdopi gyda’r cynnydd yn nifer y prydau bwyd.

Cyflwynwyd y wobr yn seremoni Gwobrau Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol (LACA) a gynhaliwyd yng Nghyrchfan y Fro ac mae’n anelu i gydnabod unigolion a thimau sy’n parhau i wneud gwahaniaeth go iawn mewn arlwyo addysg.

Dywedodd y Cynghorwyr Helen Cunningham, Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd a Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg:

“Rydym mor falch o’n tîm arlwyo ysgolion ymroddedig yma yng Nghyngor °¬²æAƬ a’r holl staff diwyd yn ein hysgolion sy’n bwydo ein plant a phobl ifanc. Diolch hefyd i’n adran Gwasanaethau Technegol sydd wedi helpu gyda rhaglen uwchraddio i sicrhau y gall cegin pob ysgol ateb y galw.

“Mae’n hollol wych medru cynnig cinio ysgol am ddim ar gyfer pob disgybl oedran cynradd yn y fwrdeistref cyn targed Llywodraeth Cymru ac mae’n werthfawr iawn i deuluoedd sy’n ei chael yn anodd ymdopi’n ariannol yn y cyfnod anodd hwn.

“Mae’r tîm arlwyo yn ymroddedig i bob amser ddarparu’r ansawdd gorau ac mae’r wobr yn cydnabod hyn – da iawn bawb!â€

Ìý

Ìý