Mae Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol °¬²æAƬ wedi ennill Gwobr Cymunedau Diogelach Cymru am ei waith partneriaeth arloesol wrth gefnogi cymunedau sydd â phryderon ynglÅ·n ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cafodd y Tasglu ei sefydlu ym mis Chwefror gan y partneriaid Cyngor °¬²æAƬ, Heddlu Gwent, Cartrefi Cymunedol Tai Calon a Gwasanaeth Ieuenctid °¬²æAƬ. Trwy raglen ymgysylltu cyhoeddus y Cyngor, Siarad Gyda’n Gilydd, bu’n bosib i’r Tasglu gwrdd â thrigolion a busnesau i glywed eu pryderon am eu cymunedau, gan alluogi partneriaid i weithio gyda'i gilydd i nodi mannau problemus a chynnig cymorth a chyngor ar adrodd a chofnodi ymddygiad problematig.
Mae'r Tasglu’n falch iawn o fod wedi ennill y categori Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn seremoni Gwobrau Cymunedau Diogelach Cymru yn Wrecsam. Cynhelir y gwobrau bob blwyddyn i gydnabod cyfraniadau rhagorol at ddiogelwch cymunedol gan unigolion, sefydliadau neu bartneriaethau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Roedd ceisiadau wedi cael eu hadolygu gan banel dyfarnu yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Plismona yng Nghymru a Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru.
Rhoddodd y seremoni wobrwyo sylw i’r enillwyr, cydweithwyr a gweithwyr diogelwch cymunedol proffesiynol ehangach a chydnabod bod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau ledled Cymru. Roedd cynrychiolwyr yr holl bartneriaid yno i dderbyn y wobr.
Mae'r Tasglu’n mynd o nerth i nerth ac yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod cuddwybodaeth gymunedol a chytuno ar ardaloedd problemus lle gall ganolbwyntio ei adnoddau cyfunol fel patrolau a gweithgareddau swyddogion a chefnogaeth i bobl ifanc.
Ym mis Mehefin, cyflwynwyd pedwar Warden Diogelwch Cymunedol pwrpasol i ddarparu patrolau cerdded gwelededd uchel a thawelwch meddwl mewn lleoliadau o'r fath. Mae'r Wardeiniaid yn ymgysylltu'n rhagweithiol â phreswylwyr, aelodau etholedig a busnesau lleol ac wedi arwain ar fenter Storenet sy'n grymuso busnesau cofrestredig i adrodd a mynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â busnes. Mae'r adborth ar y Wardeniaid wedi bod yn hynod gadarnhaol.
Trwy waith y Tasglu, mae'r Cyngor hefyd wedi gweithredu yn erbyn troseddwyr mynych drwy ei Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sy'n penderfynu ar y gosb fwyaf priodol pan fydd ymyriadau eraill wedi methu. Eleni, mae chwech o bobl ifanc wedi mynd gerbron y llys ac mae'r chwech yn destun gwaharddiadau, lle cânt eu gwahardd rhag mynd i mewn i'r trefi lle roedden nhw’n achosi problemau i drigolion a busnesau lleol. Mae'r parthau gwahardd yn para hyd at 8 mis.
Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod yn brysur yn gweithio gyda phobl ifanc allan yn y gymuned, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o ymddwyn yn wrthgymdeithasol, i'w dargyfeirio oddi wrth ymddygiad o'r fath, gan sianelu eu hegni trwy eu hatgyfeirio at weithgareddau cadarnhaol gan gynnwys prosiectau cymunedol, gan arddangos y ffyrdd maen nhw’n falch o le maen nhw’n byw.
Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ ac Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, sy'n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol:
"Sefydlwyd y Tasglu fel ymateb i bocedi o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau yma ym Mlaenau Gwent, ac i gydnabod na allai unrhyw asiantaeth neu sefydliad unigol fynd i'r afael â hyn ar eu pennau eu hunain. Mae gan y Tasglu ymrwymiad cyffredin i sicrhau newid gwirioneddol a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel. Rydym wedi gwneud cynnydd da iawn gyda’r gwaith hwn, ac rwy'n falch bod Gwobr Cymunedau Diogelach Cymru yn cydnabod hyn ac yn canmol yr ethos partneriaeth gwirioneddol y tu ôl iddo. Mae gan y Tasglu lawer mwy o waith i'w wneud, ac mae’r holl bartneriaid yn parhau i ganolbwyntio'n llwyr ar gefnogi ein cymunedau, gwrando ar eu pryderon a gweithredu arnynt.
"Diolch i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith hwn, gan gynnwys preswylwyr a busnesau."
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Stevie Warden:
"Un o brif amcanion ein tasglu yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amddiffyn preswylwyr rhag niwed a niwsans cysylltiedig.
"Mae ymddygiad afreolus o unrhyw fath yn gwbl annerbyniol, a byddwn yn defnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni i sicrhau ei fod yn cael ei ddileu o'n cymunedau.
"Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda phartneriaid y tasglu mewn ysgolion lleol ac yn ymgysylltu â thrigolion i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u gweithredoedd a'r effaith enfawr y gall ymddygiad afreolus ei chael ar eu tref a'u cymdogion, ond hefyd i ddysgu mwy am y materion sy'n effeithio'n ddifrifol arnyn nhw.
"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid, ond hefyd ddweud bod gennym ddigon o waith i'w wneud o hyd a’n bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws y fwrdeistref."
Dwedodd Rachel Rees Pennaeth Tai o Gwmni Tai calon:
"Rydym yn falch iawn i weld Tîm Ymddygiad gwrthgymdeithasol °¬²æAƬ yn cael ei gydnabod am ei waith caled ac ymroddiad. Mae'r wobr hon yn amlygu effaith anhygoel cydweithrediad rhwng partneriaid allweddol fel Tai Calon, Heddlu Gwent, Gwasanaethau Ieuenctid BG, a Gweithredu Sirol. Mae llwyddiant y bartneriaeth hon yn amlygu ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.â€
Dywedodd y beirniaid fod y Tasglu wedi dangos arfer arloesol wrth fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol, wedi atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu ac ailgodi, ac wedi cael effaith gadarnhaol ar drigolion a busnesau lleol yn y mannau problemus a nodwyd. Mae'r dull partneriaeth datblygedig hwn wedi gwella ymdeimlad pobl o les ac ansawdd bywyd yn yr ardal, a ddangosir gan yr adborth hynod gadarnhaol gan drigolion, busnesau lleol ac aelodau etholedig lleol.
Ynghyd â phartneriaid, byddwn yn parhau â'r sgwrs ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ein digwyddiadau Nadolig sydd ar ddod. Bydd aelodau'r Tasglu ar gael i sgwrsio am bryderon pobl a chynnig cyngor a chefnogaeth yn:
- Digwyddiadau Nadolig Tredegar ac Abertyleri, 7 Rhagfyr, 12pm i 4pm
- Digwyddiad Nadolig Bryn-mawr, 14 Rhagfyr, 12pm i 4pm
- Digwyddiad Nadolig Glynebwy, 21 Rhagfyr, 12pm i 4pm