°¬˛ćAƬ

Sut le yr hoffech i Flaenau Gwent fod ymhen deng mlynedd?

Mae'r Bwrdd yn cynnwys sefydliadau a grwpiau sy'n gweithio gyda'i gilydd i wasanaethu °¬˛ćAƬ, yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Adnoddau Naturiol Cymru.

Fel rhan o baratoi ar gyfer y Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), mae'r Bwrdd yn casglu barn preswylwyr. Maent eisoes wedi siarad â dros 1,500 o drigolion am y dyfodol y maent am ei weld. Mae hyn wedi eu helpu i lunio nifer o flaenoriaethau i weithio arnynt dros y blynyddoedd nesaf er mwyn gwella'r ardal leol.

Maent bellach am i bobl ddweud beth maen nhw'n meddwl sydd angen ei wneud er mwyn cyflawni eu blaenoriaethau, ac os ydynt yn gwybod am unrhyw waith cysylltiedig sydd eisoes yn digwydd.
Byddwch yn gallu rhoi eich barn ar stondinau codi yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Gwener 4 Awst 2017: Canolfan Siopa Tredegar, 10am-12pm a Lidl Tredegar, 2-4pm
  • Dydd Iau 24 Awst 2017: Asda Brynmawr, 10am-12pm.
  • Dydd Gwener 25 Awst 2017: Canol y Dref Glyn Ebwy 10am-12pm, a Morrisons Glyn Ebwy, 2-4pm.
  • Dydd Iau 31 Awst 2017: Canol y Dref Abertyleri, 10am-12pm a Tesco Abertyleri, 1pm-3pm.

Gallwch ymuno drwy ein cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashtag #BGarGarem a hefyd rhoi eich barn trwy ddefnyddio'r arolwg canlynol: https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=150004892410

Byddwch yn rhan o ddylanwadu ar bolisĂŻau yn y dyfodol a helpu i wneud °¬˛ćAƬ yn lle gwell heddiw, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.