Seren ‘Britain’s Got Talent’ Yn Dadlennu’r Prosiect Celfyddydau Diweddaref Yn Dathlu Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol Ar Draws Cymru

Mae Nathan Wyburn eisiau bwrw goleuni ar waith gofalwyr maeth AƬ, a bydd y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy hefyd yn cael eu goleuo yn lliw oren yn ystod Bythefnos Gofal Maeth ©.

Er y bu gan lawer ohonom berthnasau a chyfeillion i’n cefnogi yn ystod y cyfnod anodd a wynebwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer o blant a phobl ifanc ar draws Cymru fwy o angen y cymorth hwnnw nag erioed o’r blaen.

Nawr, gyda dechrau’r Bythefnos Gofal Maeth © – ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth a recriwtio a gaiff ei rhedeg gan y Rhwydwaith Maethu, mae AƬ yn galw ar fwy o bobl i ystyried maethu.

Gyda thema eleni o ‘#Gofalwn’ mae Nathan Wyburn, artist o Gymru sy’n adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu celf, wedi cynhyrchu darn yn defnyddio goleuadau LED i helpu profi sut gall unrhyw dŷ ddod yn gartref diogel a chariadus.

Dywedodd Nathan, “Anfonwyd cerdd ataf sy’n cwmpasu popeth a wnaiff gofalwyr maeth i roi dyfodol disglair i blant ar draws Cymru ac roeddwn eisiau creu rhywbeth sy’n dathlu’r ffordd maent yn agor y drysau i’w cartrefi a’u calonnau.

“Dewisais droi’r geiriau hynny yn ddarn o gelf gyda darn sy’n rhoi sylw i gartref fel bod y golau llythrennol ar ben draw’r twnnel ar gyfer plant a phobl ifanc.

“Rwy’n credu mai un o’r camsyniadau mwyaf am faethu yw fod yn rhaid i chi gael tŷ mawr gyda gardd fawr i fod yn ofalwr maeth – a dydy hynny ddim yn wir.

Mae fideo yn dangos y darn yn cael ei gynnull dros gyfnod a’r gerdd wedyn yn cael ei osod arno yn dangos sut mae cyd-destun y gelf yn aneglur. “Dim ond pan gaiff y goleuadau eu troi ymlaen y mae eglurdeb,” medai Nathan.

“Ymdeimlad o bosibilrwydd a chadarnhad yn dangos trwodd”.

Nawr gofynnir i bobl ar draws AƬ ddangos eu cefnogaeth i’r Bythefnos Gofal Maeth © drwy roi lamp yn eu ffenestr flaen ddydd Iau nesaf (20 Mai) i ‘fwrw goleuni’ ar waith gofalwyr maeth awdurdodau lleol, ac yn dathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Caiff adeiladau ar draws Cymru, yn cynnwys y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy, hefyd eu goleuo mewn oren i dynnu sylw at eu gwaith hynod.

Dywedodd y Cyng. John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor AƬ:

“Fedrwn i ddim bod yn falchach o’n Gofalwyr Maeth yma ym Mlaenau Gwent, yn arbennig drwy’r cyfnod heriol a effeithiodd ar bawb ohonom y llynedd. Thema ymgyrch eleni yw #Gofalwn a gallaf ddweud wrthych drosof fy hyn ar ôl cwrdd â rhai o’r gofalwyr gwych a’r plant mewn digwyddiadau maethu blaenorol, ei bod yn cynhesu’r galon  i weld y cysylltiadau personol iawn sydd wedi eu meithrin rhyngddynt.

Rwy’n credu y bydd Bythefnos Gofal Plant © 2021 yn rhoi mwy o gefnogaeth i’r gymuned faethu drwy roi llais iddynt rannu eu taith faethu gyda ni.

Gofynnaf i chi gyd ddangos eich cefnogaeth ar gyfer y Bythefnos Gofal Maeth ©, a thrwy gynyddu ymwybyddiaeth gobeithiwn y gallwn annog mwy o bobl i feddwl am ddod yn Ofalwyr Maeth.”

Bydd AƬ yn rhannu cynnwys ar draws eu sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y Bythefnos Gofal Maeth © i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.

Os credwch y gallech wneud gwahaniaeth drwy ddod yn ofalwr maeth ym Mlaenau Gwent ewch i /en/resident/health-wellbeing-social-care/fostering/ ffonio 1495357792 or 01495356037 neu anfon e-bost at FOSTERING@blaenau-gwent.gov.uk

https://www.facebook.com/blaenaugwentcbc/videos/465447581195734
https://twitter.com/i/status/1391705302018494469