Rydym yn gynhyrfus iawn o roi gwybod ichi bod y ceisiadau i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar agor. Os gwyddoch am unrhyw berson ifanc rhwng 11 a 18 oed sy’n byw yng Nghymru neu’n cael ei addysg yma ac sydd â diddordeb mewn sefyll yn yr etholiad, gall gael rhagor o wybodaeth a llenwi’r ffurflen enwebu ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru https://www.seneddieuenctid.cymru/.
Hefyd, i unrhyw un nad yw wedi cofrestru i bleidleisio eto, gallwch wneud hynny hyd at 18 Tachwedd https://www.mi-nomination.com/wypregister/form/landingpagewelsh.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech inni ddod allan i siarad yn eich ysgol neu grŵp, cysylltwch â ni ar hello@youthparliament.wales.