Saffari Stori Haf

Er mwyn cael teuluoedd i fynd o amgylch yr haf hwn yn ymestyn eu coesau, cynhelir Saffaris Stori Haf yng nghanol pob un o’n trefi. Caiff llyfr poblogaidd i blant ei guddio mewn 10 ffenestr siop ym mhob tref. Anifeiliaid yw thema’r saffari cyntaf ac mae’n cynnwys llyfr Judith Kerr The Tiger who came to tea a llyfr David Walliams The slightly annoying elephant.

Y cyfan sy’n rhaid i chi wneud yw casglu ffurflen gais o’ch llyfrgell leol ac yna chwilio yn ffenestri siopau am y rhestr llyfrau. Ysgrifennwch enw’r siop a phan ddychwelwch eich ffurflen gais, bydd gan y staff cyfeillgar yn y llyfrgell anrheg annisgwyl i chi.

Dywedodd y Cyng. Dai Davies, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd:

"Cafodd busnesau canol trefi amser caled gyda’r cyfnodau clo a siopa ar-lein. Gobeithiwn y bydd ein Saffaris Stori Haf yn annog teuluoedd i ymchwilio canol ein trefi eto a thra maent yno i ganfod beth sydd ar gael ar garreg y drws. Ni allwch gael hufen iâ drwy’r post na chael yr hwb codi calon y mae bag o losin yn ei roi, ac mae gan ein trefi lawer o siopau newydd a gweithgareddau hwyliog ar gyfer plant.”

Mae Saffaris Stori Haf yn weithgaredd diogel o ran Covid gan y cânt eu cynnal o’r stryd ac nid oes angen mynd i mewn i’r siop. Mae gan bob llyfrgell brosesau ar waith i sicrhau fod y gweithgaredd yn rhad ac a ddim, hwyl a diogel.

Byddem hefyd yn hoffi i blant liwio posteri lleol mewn siopau y gall siopau eu dangos i gefnogi canol ein trefi.

Amserau agor llyfrgell

Abertyleri
Dydd LlunDydd MawrthDydd MercherDydd IauDydd GwenerDydd SadwrnDydd Sul
Ar gau09:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00Ar gau

Blaenau
Dydd LlunDydd MawrthDydd MercherDydd IauDydd GwenerDydd SadwrnDydd Sul
10:00-13:00
14:00-17:30Ar gauAr gau10:00-13:00
14:00-17:3010:00-13:00
14:00-17:30Ar gauAr gau

Brynmawr
Dydd LlunDydd MawrthDydd MercherDydd IauDydd GwenerDydd SadwrnDydd Sul
09:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:30Ar gau09:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:30Ar gauAr gau

Cwm
Dydd LlunDydd MawrthDydd MercherDydd IauDydd GwenerDydd SadwrnDydd Sul
Ar gau10:00-13:00
14:00-18:30Ar gau10:00-13:00
14:00-17:3010:00-13:00
14:00-17:30Ar gauAr gau

Glynebwy
Dydd LlunDydd MawrthDydd MercherDydd IauDydd GwenerDydd SadwrnDydd Sul
09:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:30Ar gau09:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00Ar gau

Tredegar
Dydd LlunDydd MawrthDydd MercherDydd IauDydd GwenerDydd SadwrnDydd Sul
09:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00
14:00-17:30Ar gau09:00-13:00
14:00-17:3009:00-13:00Ar gau