Fel cyn aelod o’r Lluoedd Arfog mae John Mewett wedi arfer cael y gwaith wedi’i wneud, a gwneud y gwaith yn dda.
Nawr mae’n mynd i’r afael â her newydd yn ei swydd fel Swyddog Ansawdd Amgylchedd Lleol ar gyfer °¬²æAƬ!
Fel rhan o gynllun Caru Cymru, rhan o Cadw Cymru’n Daclus, mae John yn gweithio i ddod â phobl o bob oed ynghyd mewn cenhadaeth ar i cyd i drin nifer o faterion amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan wrth ofalu am eu hardal leol, yn ogystal â cheisio byw yn fwy cynaliadwy er mwyn taclo problemau hinsawdd. Cafodd ddechrau da, ac mae eisoes yn gweithio gyda hyrwyddwyr sbwriel presennol a grwpiau cymunedol °¬²æAƬ i gynorthwyo eu hymdrechion drwy gyflenwi’r holl offer angenrheidiol a helpu i drefnu digwyddiadau glanhau. Mae’n cysylltu gyda gwirfoddolwyr i ganfod sut y gellid ymestyn y gwaith rhyfeddol hwn ymhellach.
Mae hefyd yn gweithio gydag ysgolion, ac yn annog busnesau a mudiadau lleol i gymryd rhan a gwneud eu hymrwymiad eu hunain i helpu cadw yr ardal o amgylch yn lân a thaclus. Rydym eisoes wedi gweld rhai ymrwymiadau gan Heddlu Gwent, Wetherspoons Glynebwy, KFC, David Spears Van Dealership a nifer cynyddol o ysgolion.
Dywedodd John:
“Mae gennym dirluniau hardd o’n cwmpas yma ym Mlaenau Gwent ac mae cynifer o bobl mas yna sydd yn falch tu hwnt o’u cymunedau a ble maent yn byw. Rydym eisiau gweithio gyda’r bobl hyn i ddweud ‘beth sydd angen i chi wneud nesaf’ a ‘sut y gallwn eich helpu’ i ofalu am eich ardal leol. Mae gennym nifer o hyrwyddwyr sbwriel gwych yn barod ac rydym yn edrych ymlaen at ychwanegu ein gwaith gyda’r gwirfoddolwyr hyn yn y dyfodol.
“Rwyf hefyd wrth fy modd yn gweithio gyda’r ysgolion, nid yn unig mae yn llawer iawn o hwyl ond rydym yn cael helpu i lunio’r ffordd y mae pobl ifanc hyn yn deimlo am eu hamgylchedd a sut y gallant byw yn fwy cynaliadwy. Mae gwaith gwych yn mynd rhagddo mewn ysgolion eisoes, ac rwy’n falch i fedru cefnogi hynny ym mha bynnag ffordd a fedraf. Y disgyblion y gweithiwn gyda nhw yw cenedlaethau’r dyfodol, felly mae’n bwysig ein bod yn rhoi’r offer maent ei angen i adeiladu dyfodol disglair. Gallant drosglwyddo ‘r gwaith da i’w rhieni hefyd!â€
Dywedodd Sarah Hulme, Athrawes yng Nghampws Cynradd Heol Roseheyworth:
“Diolch i gyfraniad caredig y Cyngor o offer codi sbwriel, a’r gefnogaeth a gawsom gan John, rydym wedi medru datblygu prosiect yn cynnwys ein dysgwyr, eu teuluoedd a’r gymuned rydym yn byw ynddynt.
“Mae casglu sbwriel yn yr ardal leol wedi bod yn weithgaredd hwyliog yn yr awyr agored yn dod â theuluoedd at ei gilydd, a hefyd wedi galluogi ein dysgwyr i ddechrau eu taith fel dinasyddion cyfrifol sy’n parchu eu hamgylchedd.â€
Meddai’r Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd Cyngor °¬²æAƬ:
“Gofalu am yr amgylchedd yw un o’n prif flaenoriaethau fel Cyngor. Mae’n siomedig iawn fod rhai yn dal i fod am ddifetha ein hardal hyfryd, ond am bob un ohonynt mae llawer, llawer mwy sy’n falch iawn o’u bro ac eisiau gweithio gyda ni i ofalu am Flaenau Gwent. Hoffwn ddiolch i’n holl hyrwyddwyr sbwriel am eu gwaith hynod ac rwyf wrth fy modd fod John gennym fel dolen a chefnogaeth iddynt. Mae mor frwdfrydig ac yn benderfynol i fynd â’r maen i’r wal!â€
Byddwn yn rhoi sylw i beth o’r gwaith rhagorol sy’n digwydd o amgylch y fwrdeistref. Os ydych yn cymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiad, ymunwch os gwelwch yn dda a thagio @BlaenauGwentCPC yn eich negeseuon Twitter a defnyddio hashnod #ProudofBG
Gallai fod yn gasglu un bag o sbwriel – neu gannoedd – mae’r cyfan yn cyfrif yn yr ymdrech i gadw °¬²æAƬ yn daclus.
Os hoffech gymryd rhan yng ngwaith John, cysylltwch ag os gwelwch yn dda yn
john.mewett@blaenau-gwent.gov.uk