Yn Rhannu Bywydau caiff oedolion sydd ag anghenion gofal neu gymorth eu cyfateb gyda gofalwyr cymwys.
Mae gofalwyr yn rhannu eu bywyd cartref, teulu a chymuned gyda'r person, gan helpu i ddatblygu a chynnal sgiliau byw annibynnol, cyfeillgarwch a chysylltiadau yn eu hardal leol.
Gall pobl sy'n defnyddio Rhannu Bywydau gael mynediad i:
- Rhywle i fyw yn yr hirdymor
- Rhywle i aros am wyliau byr neu seibiant
- Rhywle i fynd am gymorth yn ystod y dydd
- Cymorth i helpu atal derbyn i ysbyty
- Cymorth tymor byr yn dilyn rhyddhau o ysbyty
Beth mae'r cynllun Rhannu Bywydau yn ei wneud?
Fel cynllun rydym yn canfod pobl sydd eisiau bod yn ofalwyr Rhannu Bywydau ac rydym bob amser yn:
- Cwblhau llawer o wiriadau (yn cynnwys gwiriadau gyda'r heddlu) i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel
- Sicrhau eu bod y math iawn o bobl i fod yn ofalwyr Rhannu Bywydau
- Rhoi hyfforddiant iddynt i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth
Gwnawn yn siŵr y caiff pobl eu cyfateb gyda gofalwyr sy'n iawn iddynt drwy:
- Ymweld â phobl yn eu cartrefi i drafod Rhannu Bywydau a dod i'w hadnabod
- Trefnu ymweliadau prawf i bobl gwrdd â gofalwyr Rhannu Bywydau a gweld os ydynt yn gydnaws
- Gwneud yn siŵr fod gan ofalwyr Rhannu Bywydau y sgiliau cywir i gefnogi pob person
- Ymweld yn rheolaidd â gofalwyr Rhannu Bywydau a'r bobl a gafodd eu cyfateb gyda nhw a gellir cysylltu ag unrhyw amser am gymortth a chyngor
- Adolygu ein holl leoliadau i wneud yn siŵr fod pethau'n mynd yn iawn
Pa fathau o gymorth mae ein gofalwyr yn ei gynnig?
Mae ein gofalwyr yn ymroddedig a hyblyg iawn yn y gefnogaeth a gynigiant, a all gynnwys:
- Cymorth i ddatblygu a chynnal sgiliau fel paratoi bwyd, siopa a threfnu arian
- Cymorth i ddatblygu a chynnal sgiliau ar gyfer tasgau cadw tÅ·
- Helpu i ehangu cylchoedd cymdeithasol a chysylltiadau cymunedol
- Cymorth i adeiladu hyder a chynyddu annibyniaeth
- Help i gael mynediad i waith neu addysg
- Cymorth gyda gofal personol
- Help i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol
I gael mwy o wybodaeth am y Cynllun gallwch edrych ar ein tudalen gwefan Rhannu Bywydau neu:
Ffonio: 01443 864784
E-bost: adultp@caerphilly.gov.uk
Gwefan: www.caerphilly.gov.uk/sharedlives
Gweithio mewn Partneriaeth Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, °¬²æAƬ a Thorfaen.