Er gwaethaf eithaf anwastad hyd at 2021 oherwydd Covid, mae gennym newyddion gwych i’w rannu sy’n dod ar ffurf Cyfeiriadur Atgyweirio Ar-lein ar gyfer cydweithredu ardaloedd awrdurdodau lleol y Grŵp Cynghorau Resource Efficiency (CLAIRE) Cymru.
Fel un sy’n derbyn cronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru yn llwyddianus, caiff y Cyfeiriadur Atgyweirio ei ddatblygu gan y Cyngor arweinol, Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ trwy weithio gyda Resource Efficiency Wales (https://www.resourceefficiencywales.co.uk ) a The Restart Project (https://therestartproject.org )
Cynghorydd Joanna Wilkins yw’r Aelod Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ dros Wasanaethau Cymunedol. Mae hi wedi dweud:
“ Rydym wrth ein bodd gyda’r gefnogaeth ariannol gan Llywodraeth Cymru i alluogi’r datblygiad offeryn mor hanfodol yn yr ymdrech i gyflawni Economi Gylchol. Hwn fydd y Cyfeiriadur Atgyweirio cyntaf o’i fath yng Nghymru”
Ar ôl ei gwblhau, bydd y Cyfeiriadur Atgyweirio yn darparu adnodd ar-lein i aelodau o’r cyhoedd o fewn unrhyw un o’r awdurdodau lleol sy’n aelodau y Grŵp a fydd yn eu cyfeirio at “siop drwsio” lle gallant fynd â’u heitemau trydanol ac electronig, beiciau, dillad, dodrefn ac eitemau eraill i’w hatgyweirio.
Yn unol â’r Cyfeiriadur Atgyweirio gweirddiol yn Llundain
(https://therestartproject.org/repairdirectory ), gall y defnyddiwr fewnbynnu ei god post i’r platform ar-lein, ynghyd â gwybodaeth arall fel yr eitem i’w hatgyweirio, hefyd, y pellter y maen nhw yn barod i’w teithio, - a siopau trwsio yn cael eu harddangos ar fap (gyda cyfeiriad, manylion cyswllt)
Ugo Vallauri, Cyd-sylfaenydd ac Arweinydd Polisi, The Restart Project. Mae ef wedi dweud
“Gall chwilio am fusnes atgyweirio dibynadwy cymryd llawer o amser ac yn aml yn rhwystredig – nod y Cyfeiriadur Atgyweirio yw ei gwneud yn haws, a thyfu’r economi atgyweirio yn y broses.
Mae hwn yn gam gwych i Gymru ac rydym mor falch o gymryd rhan”
Bydd rhannu’r wybodaeth hon yn galluogi aelodau o’r cyhoedd i osgoi eu heitemau rhag dod yn wastraff, hefyd, byddyn ymestyn oes ddefnyddiol cynhyrchion. Mae hwn yn ofyniad hanfodol wrth adeiladu Economi Gylchol yng Nghymru trwy annog y cyhoedd i ystyried opsiynau uwch yr heirarchaeth gwastraff sef atgyweirio, ailddefnyddio.
Y nod yw y bydd y Cyfeiriadur Atgyweirio yn cyflwyno pobl at fusnesau atgyweirio dibynadwy a gobeithio, bydd cynyddu’r nifer sy’n trwsio yn y cymuned.
James Kay, Cydgysylltydd Gwastraff Rhanbarthol, Resource Efficiency Wales. Mae ef wedi dweud.
“Mae hwn yn newidiwr gêm – bydd y Cyfeiriadur Atgyweirio yn darparu sail ar gyfer hyrwyddo newid ymddygiad cynhenid, gyrru atgyweirio ac ymestyn bywyd defnyddiadwy cynhyrchion a fyddai fel arall yn cael ei daflu – gall hyd yn oed arbed ychydig geiniogau ddefnyddwyr hefyd! Mae gan y grŵp awdurdodau lleol, hanes o fentrau meddwl blaengar ag arloesi, Edrychwn ymlaen at cydweithio a chyflwyno’r syniad diweddaraf hwn i yrru Economi Gylchol”
Bydd y Cyfeiriadur Atgyweirio yn darparu llwyfan ar gyfer hyrwyddo’r allfeydd hyn a bydd yn factor pwysig wrth adeiladu cefnogaeth y cyhoedd bydd ei hangen i wneud gwahaniaeth. Bydd yn cael ei atgyfnerthu gan brosiectau eraill a ariennir gan Llywodraeth Cymru sy’n eu harwain gan awdurodau lleol. Bydd y Cyfeiriadur Atgyweirio terfynol yn mynd yn fyw erbyn diwedd Mawrth 2021 a’i diweddaru yn ôl yr angen.