°¬²æAƬ

Pythefnos Gofal Maeth 2019

Gyda Phythefnos Gofal Maeth 2019 wedi cyrraedd, mae timau Maethu °¬²æAƬ yn dymuno recriwtio gofalwyr maeth prif ffrwd newydd a fyddai wrth eu bodd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant.
 
Pythefnos Gofal Maethâ„¢ , a gynhelir rhwng 13 Mai a 26 Mai, yw'r ymgyrch fwyaf ym Mhrydain i  godi ymwybyddiaeth o ofal maeth.

Mae angen miloedd o deuluoedd maeth newydd bob blwyddyn i ofalu am blant, gyda'r angen mwyaf am ofalwyr maeth ar gyfer plant hÅ·n, grwpiau brodyr a chwiorydd, plant anabl a phlant ar ben eu hunain sy'n ceisio lloches.

Caiff plant sy'n derbyn gofal ym Mlaenau Gwent eu gosod mewn gwahanol drefniadau maethu a all gynnwys gofal seibiant a phrif ffrwd. Yn ychwanegol at hyn, mae lleoliadau maeth rhiant a phlentyn yn dod yn gynyddol gyffredin oherwydd cynnydd mewn ceisiadau llys.

Mae Cyngor °¬²æAƬ hefyd yn edrych am ofalwyr a all gynnig lleoliadau ar sail llety ar gyfer pobl ifanc sydd mewn cyflogaeth, coleg neu brifysgol fel carreg gamu tuag annibyniaeth, a gofalwyr maeth a all faethu grwpiau ifanc o frodyr a chwiorydd.

Mae °¬²æAƬ hefyd yn edrych am fwy o ofalwyr maeth therapiwtig a allai gefnogi pobl ifanc gydag anghenion cymhleth.

Os credwch y gallai maethu fod yn iawn i chi a'ch teulu, mae'r tîm Maethu wedi trefnu digwyddiad cwrdd a chyfarch a gynhelir ddydd Mawrth 14 Mai yn y Ganolfan Dysgu Gweithredol, Stryd James, Glynebwy rhwng 4:00pm a 6:00pm (dim angen apwyntiad).

Yn ystod y sesiwn gallwch gael sgwrs fanwl gydag aelodau'r tîm maethu a gofalwyr maeth presennol i ddysgu mwy am y broses faethu a'r amrywiaeth o fuddion.

Dywedodd y Cyng John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol: "Gyda'r galw presennol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ym Mlaenau Gwent, rydym bob amser yn dymuno recriwtio gofalwyr maeth newydd. Ar gyfer y rhai a all fod yn ystyried maethu, byddwn yn eich annog i fynd draw a chwrdd gyda'r tîm lleoliad yn un o'n llu o sesiynau galw heibio dros y pythefnos nesaf. Byddwn yn eich annog i gysylltu os credwch y gallwch roi cartref diogel a sefydlog i blentyn neu berson ifanc. Mae'r tîm yno i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd."

I gael mwy o wybodaeth am faethu ffoniwch Dîm Lleoliad °¬²æAƬ ar 01495 357792 neu edrych ar ein tudalennau maethu ar wefan °¬²æAƬ.