Cytunodd Pwyllgor Gweithredol °¬²æAƬ heddiw ar werth mwy na £700,000 o waith gwella ffyrdd. Bydd gwaith 2020-21 yn parhau i ganolbwyntio ar wella’r rhwydwaith preswyl a diddosbarth. Mae’r rhwydwaith diddosbarth yn ffurfio 74% o’r holl rwydwaith.
Yn ogystal â rhoi wyneb newydd ar y ffyrdd blaenoriaeth uchaf, cynigir bod gwaith arall yn cael ei wneud yn gysylltiedig a nodweddion hanfodol i’r rhwydwaith priffyrdd megis rhwystrau diogelwch, arwyddion traffig â golau mewnol a mesurau gostwng cyflymder.
Mae’r gwaith a gytunwyd heddiw yn rhan o ymrwymiad parhaus ers 2017 gan y Cyngor i wella ffyrdd preswyl yn y fwrdeistref sirol.
Cafodd y buddsoddiad hefyd ei gefnogi gan aelodau o Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a bydd swyddogion yn gweithio gydag aelodau i adolygu ffyrdd yn eu wardiau ar sail barhaus.
Caiff y cyllideb ei rhannu fel sy’n dilyn:
• Ffyrdd preswyl - £445,000
• Stadau diwydiannol - £150,00
• Rhwystrau diogelwch - £50,000
• Arwyddion traffig â golau mewnol - £30,000
• Nodweddion rheoli traffig ac arwyddion diogelwch cyflymder amrywiol - £50,000
Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol y Cyngor dros yr Amgylchedd:
“Mae gwella cyflwr ein ffyrdd ym Mlaenau Gwent yn brif flaenoriaeth i ni a gwn ei bod yn bwysig i breswylwyr, felly rwy’n croesawu’r gwaith hwn gan swyddogion i ddynodi ardaloedd ar gyfer datblygu ac edrychaf ymlaen at i’r gwaith ddechrau. Rydym yn parhau’n ymroddedig i wella cyflwr ein ffyrdd a’n seilwaith, ac mae’r buddsoddiad pellach hwn heddiw yn adeiladu ar y gwaith a wnaethom mewn blynyddoedd blaenorol ac yn dangos ein bod wedi gwrando ar yr hyn oedd gan y cyhoedd i’w ddweud am gyflwr ffyrdd preswyl ym Mlaenau Gwent a rydym wedi gweithredu ar hyn.
Mae creu amgylchedd gwell gyda seilwaith o fudd i’n cymunedau lleol a hefyd fusnesau ac ymwelwyr i Flaenau Gwent yn flaenoriaeth allweddol i’r Awdurdod.â€