Ar ddydd Iau 6 Mai 2021, bydd trigolion °¬˛ćAƬ yn pleidleisio i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli nhw yn Senedd Cymru, a phwy fydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn eu hardal heddlu leol.
Er na fydd yr etholiadau tan fis Mai, rydym eisoes yn gwneud cynlluniau i helpu i’ch cadw’n ddiogel pan fyddwch yn bwrw eich pleidlais.
Bydd sawl ffordd i chi ddweud eich dweud yn yr etholiad ym mis Mai - gallwch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun rydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan, sef pleidleisio trwy ddirprwy.
Michelle Morris, Returning Officer for °¬˛ćAƬ and South Wales East said:
Bydd yr etholiadau y flwyddyn nesaf yn bwysig iawn - maent yn gyfle i chi arddel eich llais a dewis pwy sy’n eich cynrychioli ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma yn °¬˛ćAƬ.
“Rydym yn ystyried yr etholiadau hyn nawr fel y gallwch bleidleisio’n ddiogel ym mis Mai, ni waeth sut byddwch yn bwrw eich pleidlais. Rydym yn rhoi trefniadau ar waith i’ch helpu i gadw’n ddiogel yn yr orsaf bleidleisio; gallwch ddisgwyl llawer o’r mesurau rydych wedi ymgyfarwyddo â nhw mewn siopau a banciau dros y misoedd diwethaf, megis glanweithydd dwylo, marcwyr ar y llawr, a mygydau. Ond mae hefyd gennych yr opsiwn i gofrestru i bleidleisio trwy’r post neu drwy ddirprwy.”
Dywedodd Rhydian Thomas, pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:
“Eich dewis chi yw sut byddwch yn pleidleisio yn yr etholiadau fis Mai nesaf - gallwch ei wneud yn bersonol, trwy’r post, neu drwy ddirprwy.
“Os ydych yn ystyried pleidleisio trwy’r post, gallwch wneud cais nawr. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cais yn cael ei brosesu’n gynnar, ac y gellir anfon eich pleidlais bost atoch yn gynt. Mae’n hawdd gwneud cais, a gallwch ddarganfod sut mae gwneud felly trwy fynd i wefan y Comisiwn.
“Bydd rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio i ddweud eich dweud yn yr etholiadau - y ffordd hawsaf i gofrestru yw ei wneud ar-lein trwy gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Y flwyddyn nesaf fydd y tro cyntaf y bydd pobl 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn gallu pleidleisio dros Aelodau’r Senedd (ASau), felly mae’n arbennig o bwysig eich bod yn sicrhau eich bod chi ar y gofrestr etholiadol, os ydych am bleidleisio yn etholiadau’r Senedd”.
Gall preswylwyr ymweld â’r Cwestiynau Cyffredin ar y wefan trwy www.blaenau-gwent.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr etholiadau ar 6 Mai 2021. Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru gyda gwybodaeth newydd wrth iddi ddod i'r. Gall unrhyw breswylwyr sydd â chwestiynau hefyd gysylltu â’u tîm etholiadau lleol trwy
Electoral Services
- Telephone Number: 01495 355086/88
- The General Offices, Steelworks Road, Ebbw Vale NP23 6DN
- Email Address: electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk