Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor °¬²æAƬ heddiw (dydd Iau 26 Mai 2022).
Cafodd y Cynghorydd Stephen Thomas o’r Blaid Lafur ei ethol yn ffurfiol fel Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Corfforaethol a Pherfformiad. Etholwyd y Cynghorydd Helen Cunningham yn Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle a’r Amgylchedd.
Etholwyd y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol y Cyngor. Yr Aelod Llywyddol fydd yn:
- Cadeirio cyfarfodydd y Cyngor;
- Cadw trefn a gwarchod hawliau Aelodau yn cynnwys sicrhau y caiff busnes y Cyngor ei drin ar sail gyfartal a diduedd;
- Hyrwyddo ymgysylltu democrataidd ac arweinyddiaeth.
Y Dirprwy Aelod Llywyddol fydd y Cynghorydd David Wilkshire.
Aelodau Gweithrediaeth y Cyngor a’u portffolios perthnasol yw:
- Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Corfforaethol a Pherfformiad – Cynghorydd Stephen Thomas
- Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd – Cynghorydd Helen Cunningham
- Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg - Cynghorydd Sue Edmunds
- Aelod Gweithrediaeth Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cynghorydd  Haydn Trollope
- Aelod Gweithrediaeth Lle ac Adfywio – Cynghorydd John C. Morgan
Dywedodd Cyng Stephen Thomas, yr Arweinydd:
“Mae’n anrhydedd i fi gael fy ethol yn Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ heddiw, i fedru gwasanaethu pobl y fwrdeistref sirol a gweithio gyda nhw ar ein blaenoriaethau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rwy’n falch i fedru penodi’r Aelodau Gweithrediaeth yn swyddogol i’w portffolios, a hefyd yn falch i groesawu llawer o gynghorwyr newydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol i’r Cyngor. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phawb er budd gorau °¬²æAƬ a’n preswylwyr.
“Bydd y Blaid Lafur yn ymdrechu i ad-dalu ymddiriedaeth y rhai a bleidleisiodd drosom yn ein cymunedau. Mae gennym nifer o brif flaenoriaethau i ganolbwyntio arnynt a rydym wedi defnyddio ein hymgyrchu diweddar i gael ymdeimlad gwirioneddol o’r materion sy’n effeithio mwyaf ar ein preswylwyr yn eu bywyd bob dydd; y pethau sydd bwysicaf iddynt, a sut y gallwn drin rhai ohonynt.
“Byddwn yn gweithio i ddarparu’r gwasanaethau gorau a mwyaf effeithiol posibl i’r gymuned. Un o’r llu o heriau fydd gennym fydd gweithio gyda nifer o wahanol bartneriaid i wneud yr hyn a allwn i helpu gyda’r argyfwng presennol mewn costau byw. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a’r angen i fyw a gweithredu’n fwy cynaliadwy, a hefyd helpu pobl i fyw bywydau mwy iach.â€
Cafodd Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion y pwyllgorau dilynol eu penodi hefyd:
- Pwyllgor Craffu Pobl – Cynghorydd Tommy Smith (Cadeirydd) Â
- Pwyllgor Craffu Lle – Cynghorydd Malcolm Cross (Cadeirydd)Â
- Pwyllgor Craffu Partneriaeth – Cynghorydd Wayne Hodgins (Cadeirydd) Â
- Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad – Cynghorydd Joanna Wilkins (Cadeirydd) Â