Mae’r Ganolfan Ddinesig yn parhau ar gau i’r cyhoedd ond mae ffyrdd eraill i wneud taliadau i’r Cyngor. Yn ystod y cyfnod anodd hwn mae Cyngor °¬²æAƬ eisiau ei gwneud mor rhwydd ag sydd modd i bobl wneud taliadau. Gall hyn fod drwy’r dudalen gwefan ar-lein ddiogel sy’n dileu’r risg o ledaenu Coronafeirws neu, ar gyfer rhai heb fynediad i’r rhyngrwyd, gellir talu biliau mewn safleoedd PayPoint, Swyddfa’r Post neu dros y ffôn.
Darllenwch islaw pa wahanol opsiynau sydd ar gael ond os oes gennych unrhyw bryderon neu’n ansicr beth i’w wneud, ffoniwch y Cyngor ar 01495 311556 os gwelwch yn dda.
Taliadau Ar-Lein 24 Diogel
Mae ar-lein yn ffordd gyflym a diogel i dalu i’r Cyngor a gellir talu amrywiaeth o filiau yn cynnwys y Dreth Gyngor gyda’r rhan fwyaf o’r prif gardiau credyd neu ddebyd (dim Diners Card nag American Express).
Mae dolenni i’r rhestr cyfrifon ar gael yma - https://bit.ly/2NNYOz9
Taliadau Ffôn
Gallwch wneud taliadau i Gyngor Bwrdeistref °¬²æAƬ, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, drwy ddefnyddio’r dewis talu ffôn digidol.
Drwy ffonio 0845 6042635, a dilyn y cyfarwyddiadau syml, gellir gwneud taliadau yn defnyddio eich cerdyn credyd neu gerdyn debyd drwy bwyso’r botymau priodol. (Nodwch os gwelwch yn dda: Mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 5c y funud ynghyd â thâl mynediad eich cwmni ffôn).
Swyddfeydd Post a Safleoedd PayPoint
Gydag arian parod yn unrhyw Swyddfa’r Post neu safle PayPoint, gan ddefnyddio’r barcôd ar eich bil/anfoneb neu gysylltu â’r adran Refeniw i gael cerdyn talu. Os oes gennych gerdyn talu, gofynnir i chi ei gadw i wneud taliadau yn y flwyddyn ariannol newydd.
Talu eich Treth Gyngor
Debyd Uniongyrchol - Mae hon yn ffordd gyflym a rhwydd i dalu eich Treth Gyngor. Gallwch drefnu debyd uniongyrchol yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, drwy glicio yma - https://bit.ly/3gzEs9h
Byddwch angen eich rhif cyfrif Treth Gyngor, allwedd ar-lein o’ch bil diweddaraf, ynghyd â manylion eich banc.
Fel arall, gallwch drefnu debyd uniongyrchol drwy ffonio’r Tîm Refeniw ar 01495 355212