Bu’r gwasanaeth bws fflecsi yn rhedeg ers mis Mehefin 2021 a chaiff ei weithredu gan Stagecoach a Trafnidiaeth Cymru ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ. Fe wnaeth y prosiect peilot hwn dreialu dull newydd o wasanaethau bws i alluogi preswylwyr i fynd i’r gwaith, addysg, mynychu apwyntiadau, cysylltu gyda thrafnidiaeth gyhoeddus arall, cymdeithasu a siopa o yn gynnar yn y bore tan yn hwyr gyda’r nos.
Yn dilyn adborth gan breswylwyr a chwsmeriaid yn ystod y cyfnod peilot rydym yn cyflwyno rhai newidiadau i’r gwasanaeth o ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023.
Bydd y gwasanaeth fflecsi yn parhau i weithredu rhwng 5.30am tan 9.15am yn y bore a rhwng 17.45pm a 23.00pm gyda’r nos. Gofynnir i chi archebu yn ôl yr arfer yn defnyddio’r ap neu’n ffonio ein tîm ar 0300 234 0300.
Bydd gwasanaeth amserlen newydd yn gweithredu rhwng 9.24am a 17.45pm yn ystod y dydd ac ni fydd angen archebu ymlaen llaw, gallwch fynd at y bws yn y safle bws agosaf atoch.
Mae amserlenni ar gyfer y gwasanaethau E1 a E2 newydd ar gael yn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newidiadau i’r gwasanaeth fflecsi cysylltwch â’r tîm ar 0300 234 0300 neu anfon e-bost at helo@fflecsi.cymru
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ar y gwasanaeth amserlen newydd gallwch gysylltu â Stagecoach yn uniongyrchol ar 0345 241 8000.