°¬²æAƬ

Ffordd newydd i bleidleisio yn yr Etholiadau

Cynhelir etholiadau i gynghorau lleol ledled Cymru ar 5 Mai 2022.

Yn hanesyddol, mae pleidleisio bob amser wedi digwydd ar ddydd Iau. Fodd bynnag, mae °¬²æAƬ yn un o bedwar awdurdod lleol sy’n peilota pleidleisio ‘ymlaen llaw’ fydd yn galluogi pobl i bleidleisio’n gynnar ar wahanol ddyddiau.

Ym Mlaenau Gwent, gallwch bleidleisio rhwng 8am a 4pm ddydd Mawrth 3 Mai ac ar ddydd Mawrth 4 Mai cyn yr etholiad yng Ngholeg Gwent yng Nglynebwy. Gall unrhyw un sy’n byw ym Mlaenau Gwent fynd yma i bleidleisio, ble bynnag maent yn byw a lleoliad eu gorsaf bleidleisio draddodiadol.

Dywedodd Andrea Jones, Swyddog Canlyniadau Cyngor °¬²æAƬ:

“Diben y cynlluniau yw gweld os gallwn ei gwneud yn rhwyddach i bobl bleidleisio drwy fod yn hyblyg ar pryd a ble y gallwch bleidleisio. Bydd y cynllun yn dod â’r blwch pleidleisio yn nes at fywydau dydd i ddydd pobl.

"Hwn yw’r cam nesaf wrth sicrhau fod etholiadau yng Nghymru mor hygyrch ag sydd modd ac y gall pawb sydd eisiau pleidleisio wneud hynny. Caiff yr hyn a ddysgir ei ddefnyddio i lywio gwelliannau tymor hirach i’r ffordd y mae pobl yn pleidleisio a helpu i ostwng y diffyg democrataidd."

Dywedodd Mick Antoniw, Cwnsel Cyffredin a Gweinidog dros y Cyfansoddiad:

“Mae’r cynlluniau peilot hyn yn gam arall wrth sicrhau fod etholiadau yng Nghymru mor gyfleus ag sydd modd. Rydym eisiau ei gwneud mor rhwydd ag sydd modd i bleidleisio, cynyddu’r nifer sy’n pleidleisio a chreu strwythurau gwleidyddol sy’n fwy cynrychioladol o’r bobl a wasanaethant."

Gall preswylwyr bleidleisio ddydd Iau 5 Mai yn eu gorsaf bleidleisio os nad ydynt wedi cymryd rhan yn y cynllun pleidleisio ymlaen llaw.

Ìý