°¬²æAƬ

Maethu Cymru °¬²æAƬ yn noddi Tîm Pêl-droed dan 10 Nantyglo

Fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth eleni, cadarnhawyd mai Maethu Cymru °¬²æAƬ fydd noddwyr newydd balchTîm dan 10 Clwb Pel-droed Nantyglo ynghyd â Kelly’s Explorers Childminding.

Mae’r nawdd diweddaraf wedi golygu y gall plant barhau i chwarae fel tîm ac wedi medru cynllunio eu cit eu hunain fel rhan o’r nawdd.

Ddydd Mawrth 4 Gorffennaf am 7pm cynhaliodd Clwb Pêl-droed Nantyglo gyflwyniad noddwyr cit ym Mharc Dyffryn Blaenau i ddangos y cit newydd i’r tîm. Roedd aelodau tîm Maethu Cymru yn bresennol yn y lansiad yn ogystal â Kelly’s Explorers a rhieni/gofalwyr y plant i edrych ar y tîm dan 10 yn casglu eu cit newydd gan Julie Milton o dîm lleoli Maethu Cymru.

Dywedodd Darren Michael, Hyfforddydd Tîm dan 10 Clwb Pêl-droed Nantyglo:

“I’r tîm a finnau mae’n bwysig cadw’r noddwr yn lleol yn yr amgylchedd presennol. Mae’r holl dîm yn blant lleol o bob rhan o Flaenau Gwent. Byddant wrth eu bodd gyda’r cit newydd gwell a phroffesiynol gan nad ydynt erioed wedi cael cit newydd sbon o’r blaen.â€

Roedd y tîm ar ben eu digon gyda golwg y cit newydd. Diolchodd Darren i’r ddau Noddwyr am yr hyn y gallwyd ei wneud fel rhan o dîm, yn arbennig ar ôl tymor anodd.

Mae Maethu Cymru °¬²æAƬ yn dymuno pob lwc i’r tîm yn y dyfodol, a fedrwn ni ddim aros gweld pa mor bell yr ewch fel clwb lleol. Diolch, Clwb Pêl-droed Nantyglo am ganiatau i ni fod yn rhan o’ch dyfodol.

Os hoffech wybod mwy o wybodaeth am Maethu Cymru °¬²æAƬ ewch i: neu ffonio’r tîm ar 01495 357792 | 01495 356037.Â