Roedd y digwyddiad yn dathlu 100 mlynedd o'r Awyrlu Brenhinol yn gwarchod a diogelu'r nen uwchben Prydain Fawr
Croesawodd y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, Arglwydd Raglaw Gwent y Brigadydd Aitken, Uchel Siryf Gwent Sharon Linnard a Chomodor Awyr yr RAF Adrian Williams (Swyddog Awyr Cymru).
Roedd gwesteion amlwg eraill yn y digwyddiad yn cynnwys y Parch Islwyn Morgan, a arweiniodd y gweddĂŻau yn y seremoni, aelodau canghennau lleol y Lleng Brydeinig Frenhinol o bob rhan o Flaenau Gwent, cynrychiolwyr Cadetiaid Awyr Tredegar (Sgwadron 2167), Cymdeithas Medalau De'r Iwerydd a chynrychiolwyr sefydliadau partner o Grŵp Cyfamod Cymuned Lluoedd Arfog °¬˛ćAƬ.
Cafodd y Cyngor hefyd ei gynrychioli gan y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Garth Collier, Cadeirydd y Cyngor y Cynghorydd Mandy Moore a Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor Michelle Morris.
Mewn araith yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Thomas:
Cafodd Baner yr Awyrlu Brenhinol, y faner swyddogol a ddefnyddir i gynrychioli'r RAF, ei chodi yn y digwyddiad gan gynrychiolwyr o'r RAF o safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.
Mae'r digwyddiad yn dangos ymroddiad i'r Cyfamod Lluoedd Arfog a lofnodwyd ym Mlaenau Gwent a'r dymuniad fel sefydliadau partner yn gweithio ym Mlaenau Gwent i ddweud "diolch yn fawr" i'r RAF am eu holl waith dros ein gwlad.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ hanes maith o fod yn gefnogwr balch i'r Lluoedd Arfog. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i'r Cyfamod Lluoedd Arfog ac yn falch i gael Fforwm Lluoedd Arfog gweithgar ac ymroddedig sy'n cwrdd yn rheolaidd.
http://www.blaenau-gwent.gov.uk/council/partnerships/armed-forces-community-covenant/