Llythyr at aelwydydd a ddioddefodd effeithiau’r llifogydd yn ystod stormydd mis Chwefror Mae’r pandemig Covid19 yn cael effaith aruthrol ar fywydau pob un ohonom. Y peth pwysicaf un y gallwn ei wneud i ymladd y coronafeirws yw aros gartref er mwyn gwarchod y GIG ac achub bywydau.
Fodd bynnag, rwy’n sylweddoli y bydd dygymod ag effeithiau Covid-19 hyd yn oed yn fwy anodd i’r aelwydydd hynny a ddioddefodd effeithiau’r llifogydd ym mis Chwefror. Gwn ei bod yn bosibl bod rhai aelwydydd yn byw mewn llety dros dro, a bod eraill wedi aros mewn eiddo a ddifrodwyd.
Mae’n bosibl y bydd angen rhagor o gymorth ar rai aelwydydd i hunanynysu ac i gadw at y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol. Mae fy nghydweithwraig, Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi trefnu bod £10 miliwn ar gael i’r awdurdodau lleol ac wedi ysgrifennu at aelwydydd penodol a ddioddefodd effeithiau’r llifogydd i gynnig rhagor o gyngor a thynnu sylw at y cymorth sydd gael.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru fod pecyn ychwanegol, gwerth £10 miliwn, ar gael i bob aelwyd a ddioddefodd effeithiau llifogydd yn eu prif gartref o ganlyniad i’r stormydd ym mis Chwefror. Gyda chymorth yr awdurdodau lleol, rydym wedi cynnal asesiad o anghenion y bobl hynny a ddioddefodd effeithiau’r llifogydd ym mis Chwefror o ran yr effaith y mae’r pandemig Covid-19 yn ei chael arnynt. Rydym wedi estyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy’n gymwys i gael cymorth yn gallu gwneud cais amdano.
Gellir hefyd ddefnyddio’r £10 miliwn o gymorth ychwanegol ar gyfer digartrefedd i helpu’r bobl hynny sydd wedi dioddef llifogydd os yw eu sefyllfa o ran tai yn eu hatal rhag cadw at ganllawiau’r Llywodraeth ar warchod eu hunain rhag y feirws. Rydym yn gweithredu i wneud yn siŵr bod cymorth a chefnogaeth ar gael pan fo’i angen arnoch. Rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi er mwyn amddiffyn cymunedau rhag llifogydd. Trefnwyd bod cyllid ychwanegol ar gael i bob cyngor ac i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer amddiffynfeydd newydd rhag
llifogydd ac er mwyn atgyweirio amddiffynfeydd o’r fath a ddifrodwyd yn ystod stormydd mis Chwefror.
Mae gwaith fy adran ar reoli perygl llifogydd yn elfen graidd o’n hymateb i’r newid yn yr hinsawdd ac rwy’n parhau’n ymrwymedig i sicrhau’r holl gyllid sydd ei angen i barhau â’r gwaith hwn. Ar ôl llifogydd mis Chwefror, rwyf wedi trefnu bod mwy o gyllid refeniw ar gael i’r awdurdodau lleol i’w helpu i reoli perygl llifogydd. Ochr yn ochr â’r cyllid uwch ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, rwyf wedi cynyddu cyllidebau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd a pherygl llifogydd ar yr arfordir.
Bydd awdurdodau lleol yn gweld cynnydd o 50% yn y gyllideb ar gyfer gwaith amddiffyn rhag llifogydd. Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r cyllid llawn i’r awdurdodau lleol wneud y gwaith sydd ei angen i atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd a ddifrodwyd ym mis Chwefror, gan ddarparu £2.8 miliwn hyd yma.
Er bod effaith y pandemig yn golygu ei bod yn anos gwneud y gwaith hwn, rydym yn benderfynol y dylai barhau er mwyn helpu i amddiffyn ein cymunedau. Ar ôl y tirlithriad yn Tylorstown ym mis Chwefror, comisiynais adolygiad brys o ddiogelwch tomenni gwastraff.
Sefydlwyd tasglu newydd, y Tasglu Polisi ar Ddiogelwch Tomenni Glo, ac mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n ddiflino i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn ar gynnal safonau ac amddiffyn ein cymunedau. Cafodd llinell gymorth rhadffôn newydd ei chyflwyno ar 0800 021 9230 er mwyn i unrhyw aelod o’r cyhoedd fedru rhoi gwybod am bryderon yn y dyfodol. Rwy’n meddwl amdanoch ar yr adeg anodd hon.
Lesley Griffiths AC/AM
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Minister for Environment, Energy and Rural Affairs