Mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi amlinellu’u 10 blaenoriaeth ar gyfer y rhanbarth yn sgîl pandemig yr haint coronafeirws.
Mae’r Cabinet, sy’n cynnwys arweinwyr y 10 awdurdod lleol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, wedi ailgloriannu anghenion yr economi rhanbarthol wrth i’r wlad gefnu ar y cyfyngiadau symud a’i hanelu hi am adferiad.
Daw’r 10 blaenoriaeth fel atodiad i Gynllun Diwydiannol ac Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a luniwyd ar ddechrau 2019 gan y Cabinet Rhanbarthol ynghyd â Phartneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys unigolion blaenllaw o’r byd busnes, y sector cyhoeddus a’r byd academaidd.
Bwriadwyd y cynllun i fod yn hyblyg bob amser fel y gellid ei addasu i anghenion newidiol yr economi rhanbarthol dros ei oes o 20 mlynedd. Mae’r pandemig wedi golygu ailgloriannu cynnar i wneud yn sicr ei fod yn dal i ddiwallu anghenion y rhanbarth.
Ymateb Strategol
Ar ôl ymgynghori â’r Bartneriaeth Twf Economaidd a rhanddeiliaid eraill, fe wnaeth y Cabinet Rhanbarthol gymeradwyo pum argymhelliad ar gyfer ei Ymateb Strategol i’r pandemig. Yr argymhellion hyn yw:
- Osgoi’r ymateb cyllido uniongyrchol, gorlawn, er mwyn gwneud yn sicr y bydd unrhyw ymyriadau’n cydategu ac nid yn dyblygu pecynnau cymorth busnes presennol;
- Cadw at y cynllun strategol gwreiddiol a’i ffocws ar ddiwydiannau’r dyfodol, ond cyflymu ymdrechion i adeiladu clystyrau yn ymwneud â thechnoleg feddygol, data/Deallusrwydd Artiffisial, lled-ddargludyddion cyfansawdd, seilwaith, technoleg ariannol ac ynni, gan gydbwyso hyn â dull creu cyfoeth lleol o weithredu;
- Ailgloriannu, cyfaddasu ac addasu rhaglenni buddsoddi cyfredol i wneud yn sicr eu bod yn dal i fod yn addas i’w diben;
- Trosoli ffynonellau cyllid eraill a defnyddio offer a datrysiadau ariannol perthnasol yn gyflym lle mae yna gwmni neu gynigiad ymarferol profedig er mwyn cynyddu cadernid busnesau a hwyluso twf;
- Sefydlu “Rhaglen Her Ailadeiladu Economïau Lleol” newydd.
Y 10 Blaenoriaeth
Yn ychwanegol at y pum argymhelliad hyn, mae’r Cabinet Rhanbarthol wedi amlinellu 10 blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt fel rhan o ddull graddol o weithredu tuag at ymdopi â’r pandemig ac o gefnu ar y pandemig a’i effaith economaidd.
O dan y cam cyntaf, Adwaith, y blaenoriaethau yw:
1. Helpu busnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i lywio drwy’r pecynnau cymorth cyllido sydd ar gael a chanfod bylchau mewn darpariaeth. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu gwybodaeth, cael adborth, a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n codi.
2. Adeiladu sylfaen dystiolaeth gref i alluogi asesu iechyd economaidd rhanbarthol parhaus. Mae hyn yn cynnwys gweithio â’r Ysgol Daearyddiaeth Economaidd ym Mhrifysgol Caerdydd i greu dangosfwrdd data rhanbarthol o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol, a chael adborth gan randdeiliaid i nodi materion a chyfleoedd.
3. Adolygu mentrau cyfredol y Fargen Ddinesig i wneud yn sicr eu bod yn gyson â hanfodion economaidd a chymdeithasol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn byd ar ôl haint Covid-19. Bydd hyn yn cynnwys cyflymu’n rhaglenni Seilwaith Digidol ar gysylltedd ffibr llawn a 5G, ac ystyried gweithredu rhaglen gymorth ehangach o ddysgu sgiliau newydd / Addysg Uwch / Addysg Bellach i adlewyrchu’r ddynameg newidiol yn y sector.
4. Sicrhau bod entrepreneuriaid a chwmnïau sy’n egino yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen. Mae hyn yn cynnwys hwyluso modd o gael at raglenni mentora a grwpiau rhwydweithio, datgloi llwybrau i gael cyfalaf hadau cychwynnol a dylanwadu ar gread dichonol rhaglen gyllido unswydd bwrpasol i rannu llewyrch.
5. Sefydlu Rhaglen Her Ailadeiladu Economïau Lleol newydd i fanteisio ar yr arloesi a’r dyfeisgarwch busnes a welwyd yn ystod yr argyfwng. Bydd dwy neu dair o heriau, megis heneiddio’n iach, adnewyddu economi sylfaenol, symudedd yn y dyfodol neu ddatgarboneiddio, yn destun canolbwyntio ar gyfer y cronfeydd her newydd.
Yn yr ail gam, Addasiad, y blaenoriaethau yw:
6. Datblygu ymyriadau cyllido newydd, sydd wedi’u targedu a mecanweithiau cymorth cymwysiadau buddsoddi newydd. Mae hyn yn cynnwys gweithio â phartneriaid buddsoddi i greu Cronfa Cyd-fuddsoddi i Fusnesau Bach a Chanolig i helpu i gynyddu busnes mewn sectorau blaenoriaethol.
7. Cynorthwyo busnesau allweddol yng nghlystyrau blaenoriaethol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gynyddu’u cadernid a’u gallu i dyfu drwy fwy o hyblygrwydd ar fenthyca/buddsoddiadau. Mae hyn yn cynnwys ystyriaeth o fecanweithiau cyllido eraill, megis ecwitïau trosadwy, mwy o hyblygrwydd mewn ffyrdd o asesu capasiti dyled, a mwy o ddefnydd o warantau a gwarannau â chymorth asedau.
8. Cyflymu datblygiad ein clwstwr technoleg feddygol drwy annog a chefnogi cyfleoedd buddsoddi mewn arloesedd technoleg feddygol. Bydd hyn yn caniatáu inni adeiladu ar y cyfleoedd strategol ar gyfer y sector a’r rhanbarth a ddaw oherwydd graddfa’r busnesau sy’n amrywiaethu’u seiliau gweithgynhyrchu er mwyn gallu cynhyrchu offer a chyfarpar meddygol.
9. Hwyluso creu clystyrau diwydiannol cadarn sydd ag ecosystemau rhanbarthol ffyniannus. Mae hyn yn cynnwys creu cyrff o glystyrau ffurfiol mewn sectorau blaenoriaethol, a blaenoriaethu cymorth buddsoddi i gydategu gweithgareddau mewnfuddsoddi cwmnĂŻau clwstwr strategol.
10. Cynyddu’n cystadleugarwch a chreu cyfoeth cyffredinol fel rhanbarth drwy wella perfformiad ariannol busnesau canolig eu maint. Bydd hyn yn cynnwys ymyriadau sydd wedi’u canolbwyntio, megis hwyluso mwy o gyfleoedd rhwydweithio rhwng Prif Swyddogion Gweithredol ar gyfer rhannu cynghorion ac arweiniad o ran arferion gorau.
Dywedodd Anthony Hunt, Cadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Mae unigolion, busnesau a chymunedau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi gweithio’n eithriadol o galed ac wedi gwneud aberthau sylweddol i helpu i atal lledaeniad yr haint Covid-19, i gynorthwyo’n gwasanaethau iechyd a gofal, ac i gadw dau ben llinyn ynghyd yn eu busnesau.
“Mae’r Cabinet Rhanbarthol yn gwerthfawrogi’r ymdrech eithriadol y mae pawb wedi’i wneud, ac mae’n benderfynol o wneud yn sicr y bydd ein rhanbarth yn ailymddangos yn yr adferiad sydd o’n blaenau yn gryfach, yn fwy cystadleuol, yn fwy cysylltiedig ac yn gadarnach nag o’r blaen.
“Mae’r 10 blaenoriaeth hyn, gan ystyried y gronfa Her, er enghraifft, yn golygu ffyrdd newydd o ddatrys rhaglenni anodd eu trin fydd yn helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n hymdrechion cyfunol ar y pethau a gaiff yr effaith fwyaf.”
Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Mae Covid-19 wedi rhoi her inni i gyd, ac mae pobl, busnesau a chymunedau ledled ein rhanbarth wedi wynebu’r heriau hyn â phenderfyniad. Bydd y misoedd a’r blynyddoedd o’n blaenau yn dod â heriau o’r newydd inni wrth inni gefnu ar y cyfyngiadau symud a dechrau ailadeiladu’n heconomi.
“Roedd y cynllun economaidd a’r blaenoriaethau buddsoddi roeddem eisoes wedi’u hamlinellu cyn y pandemig hwn wedi’u cynllunio i wneud ein rhanbarth yn fwy cysylltiedig, yn fwy cystadleuol ac yn gadarnach, ac i wneud yn sicr bod buddion llawn y Fargen Ddinesig yn cael eu teimlo yn ein holl gymunedau ledled y rhanbarth. Rydym wedi edrych drachefn ar ein cynlluniau ac wedi penderfynu mai’r sectorau blaenoriaethol roeddem wedi’u nodi i gael cymorth yw’r rhai fydd yn helpu’n rhanbarth orau i ffynnu yn y dirwedd economaidd newydd fydd yn ailymddangos yn sgîl y pandemig.
“Mae’r 10 blaenoriaeth rydym wedi’u hamlinellu yn cynrychioli lle y credwn y gallwn gynorthwyo’n busnesau a’n cymunedau yn fwyaf buddiol, ac fe fyddant yn ein galluogi i greu gwaddol cadarnhaol. Drwy gymryd ymagwedd newydd ac nid dim ond yn parhau â’r hen ffyrdd o wneud pethau, fe gredwn y gallwn helpu’n busnesau a’n cymunedau i lwyddo y tu hwnt i effaith y pandemig ac i ailymddangos yn gryfach ac yn fwy galluog i wynebu’r dyfodol â hyder.”
Dywedodd Frank Holmes, Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Rydym wedi gweld nerth cydweithredu a sut y dylai’r gwaith o gyflenwi gael ei adael i’r arbenigwyr i’w wneud orau, boed hynny mewn gofal iechyd, cyllid a gwasanaeth cyhoeddus.
“Fel mae drysau ffisegol yn cau, mae drysau digidol yn agor led y pen. Mae’n hanfodol ailadeiladu ar gyfer y dyfodol a pheidio â phendroni dros ddatrys problemau’r gorffennol.
“Mae’r cyflwr normal nesaf yn nwylo llunwyr penderfyniadau dirifedi, ac fe allai arwain at ymchwydd mewn arloesi a chynhyrchiant, diwydiannau cadarnach, llywodraeth ddoethach ar bob lefel a byd wedi’i ailgysylltu, neu dwf arafach, llai o ffyniant, llywodraeth chwyddedig ac anghydraddoldeb cynyddol â ffiniau tynn.”