°¬²æAƬ

Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr Lefel A/AS

Hoffai Cyngor °¬²æAƬ longyfarch pob myfyriwr Lefel A/AS ar eu llwyddiant heddiw.

Caiff Addysg Ôl-16 ym Mlaenau Gwent ei ddarparu yn Hafan Dysgu °¬²æAƬ, campws sy’n rhan o Goleg Gwent. Oherwydd pandemig cyfredol Covid-19, nid oedd unrhyw arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn a chafodd graddau eu dyfarnu drwy ddull a ddatblygwyd drwy Gydbwyllgor Addysg Cymru ynghyd â Chymwysterau Cymru. Rhoddodd Gweinidog Addysg Cymru ddiweddariad ar hyn ddoe ac mae hefyd gynlluniau i ddiwygio’r broses apêl.

Mae mwy o wybodaeth ar hyn ar gael yn:

•&²Ô²ú²õ±è;https://llyw.cymru/
•&²Ô²ú²õ±è;https://cymwysteraucymru.org/cymraeg/

Er y cafodd nifer fach o fyfyrwyr eu gwahodd i’r campws yng Nglynebwy i gasglu ei canlyniadau, cafodd y mwyafrif eu canlyniadau o bell.

Cafodd y myfyrwyr eu llongyfarch gan y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor °¬²æAƬ, ar ran yr awdurdod lleol. Dywedodd:

“Bu’n flwyddyn anodd iawn i ddysgwyr ac mae canlyniadau heddiw yn dangos gwaith caled ac ymroddiad staff ar draws y sector addysg ym Mlaenau Gwent – yn arbennig staff yn Hafan Dysgu °¬²æAƬ, ein myfyrwyr a’u teuluoedd a phawb arall sydd wedi eu cefnogi ar hyd y ffordd.

Llongyfarchiadau ar eich canlyniadau heddiw, mwynhewch a dathlu eich llwyddiant ond cofiwch bawb i gadw’n ddiogel. Cofiwch fod help a chefnogaeth ar gael os oes gennych unrhyw anawsterau gyda’r graddau.

“Dymuniadau gorau oll i chi ar gyfer y dyfodol ar y llwybrau gyrfa y gwnaethoch eu dewis.â€