°¬²æAƬ

Lansio Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc

Mae Teuluoedd yn Gyntaf, mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ, yn cefnogi cynllun cerdyn adnabod newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu gofalwyr ifanc yng Nghymru. Gofalwr Ifanc yw rhywun sy’n helpu i ofalu am eu teulu neu gyfaill, sy’n wael, anabl, sydd â chyflwr iechyd meddwl neu’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.
 
Mae nifer o fanteision i’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, os dewisant ei gael, tebyg i alluogi’r Gofalwr Ifanc i adael i bobl wybod yn gynnil fod ganddynt gyfrifoldebau fel gofalwr ifanc ac i gael cydnabyddiaeth i’w rôl, heb orfod rhannu manylion personol dro ar ôl tro. Mae hefyd yn ffordd i roi hyder i’r gofalwr ifanc ofyn am help a dealltwriaeth gan weithwyr proffesiynol tebyg i athrawon, meddygon a fferyllwyr drwy ddangos y cerdyn pan y gallant fod angen y cymorth hwn.

Manteision eraill y cerdyn adnabod yw’r cynnig o wahanol ostyngiadau gan nifer o wahanol fusnesau. Hyd yma cawsom gefnogaeth leol gan:

  • Chilli of the Valley
  • J D Barbers
  • Clwb Pêl-droed Beaufort Colts
  • Dizzy Kids
  • Scoopz Ice-cream and Desserts
  • Promo Cymru
  • EV1

Byddwn yn cynnal lansiad rhithiol o’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc ddydd Mercher 28 Ebrill am 2pm drwy Microsoft Teams lle gwahoddwyd ein gofalwyr ifanc a Swyddogion Partneriaeth i gyd i fynychu.

Os ydych yn fusnes lleol ac os hoffech gynnig eich cefnogaeth i Gerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, cysylltwch os gwelwch yn dda drwy anfon e-bost
maria.perkins@blaenau-gwent.gov.uk